bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
/
Jeremiah 4
Jeremiah 4
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 5 →
1
"Os dychweli, Israel," medd yr ARGLWYDD, "os dychweli ataf fi, a rhoi heibio dy ffieidd-dra o'm gu373?ydd, a pheidio simsanu,
2
ac os tyngi mewn gwirionedd, mewn barn a chyfiawnder, 'Byw yw yr ARGLWYDD', yna fe ymfendithia'r cenhedloedd ynddo, ac ymglodfori ynddo."
3
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth bobl Jwda a Jerwsalem: "Braenarwch i chwi fraenar, a pheidiwch hau mewn drain.
4
Ymenwaedwch i'r ARGLWYDD, symudwch flaengroen eich calon, bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem, rhag i'm digofaint ddod allan fel tn a llosgi heb neb i'w ddiffodd, oherwydd drygioni eich gweithredoedd.
5
"Mynegwch yn Jwda, cyhoeddwch yn Jerwsalem, a dywedwch, 'Canwch utgorn yn y tir, bloeddiwch yn uchel.' A dywedwch, 'Ymgynullwch, ac awn i'r dinasoedd caerog.'
6
Codwch, ffowch tua Seion, ffowch heb sefyllian; oherwydd dygaf ddrygioni o'r gogledd, a dinistr mawr.
7
Daeth llew i fyny o'i loches, cychwynnodd difethwr y cenhedloedd, a daeth allan o'i drigle i wneud dy dir yn anrhaith, ac fe ddinistrir dy ddinasoedd heb breswyliwr.
8
Am hyn ymwregyswch sachliain, galarwch ac udwch; oherwydd nid yw angerdd llid yr ARGLWYDD wedi troi oddi wrthym.
9
Ac yn y dydd hwnnw," medd yr ARGLWYDD, "fe balla hyder y brenin a hyder y tywysogion; fe synna'r offeiriaid, ac fe ryfedda'r proffwydi."
10
Yna dywedais, "O ARGLWYDD Dduw, yr wyt wedi llwyr dwyllo'r bobl hyn a Jerwsalem, gan ddweud, 'Bydd heddwch i chwi'; ond trywanodd y cleddyf i'r byw."
11
Yn yr amser hwnnw fe ddywedir wrth y bobl hyn ac wrth Jerwsalem, "Bydd craswynt o'r moelydd uchel yn y diffeithwch yn troi i gyfeiriad merch fy mhobl,
12
nid i nithio nac i buro. Daw gwynt cryf ataf fi; yn awr myfi, ie myfi, a draethaf farn yn eu herbyn hwy."
13
Wele, bydd yn esgyn fel cymylau, a'i gerbydau fel corwynt, ei feirch yn gyflymach nag eryrod. Gwae ni! Anrheithiwyd ni.
14
Golch dy galon oddi wrth ddrygioni, Jerwsalem, iti gael dy achub. Pa hyd y lletya d'amcanion drygionus o'th fewn?
15
Clyw! Cennad o wlad Dan, ac un yn cyhoeddi gofid o Fynydd Effraim,
16
"Rhybuddiwch y cenhedloedd: 'Dyma ef!' Cyhoeddwch i Jerwsalem: 'Daw gwu375?r i'ch gwarchae o wlad bell, a chodi eu llais yn erbyn dinasoedd Jwda.
17
Fel gwylwyr maes fe'i hamgylchynant, am iddi wrthryfela yn fy erbyn i,'" medd yr ARGLWYDD.
18
"Dy ffordd a'th weithredoedd sydd wedi dod hyn arnat. Dyma dy gosb, ac un chwerw yw; fe'th drawodd hyd at dy galon."
19
Fy ngwewyr! Fy ngwewyr! Rwy'n gwingo mewn poen. O, barwydydd fy nghalon! Y mae fy nghalon yn derfysg ynof; ni allaf dewi. Canys clywaf sain utgorn, twrf rhyfel.
20
Daw dinistr ar ddinistr, anrheithir yr holl dir. Yn ddisymwth anrheithir fy mhebyll, a'm llenni mewn eiliad.
21
Pa hyd yr edrychaf ar faner, ac y gwrandawaf ar sain utgorn?
22
Y mae fy mhobl yn ynfyd, nid ydynt yn fy adnabod i; plant angall ydynt, nid rhai deallus mohonynt. Y maent yn fedrus i wneud drygioni, ond ni wyddant sut i wneud daioni.
23
Edrychais tua'r ddaear afluniaidd a gwag ydoedd; tua'r nefoedd ond nid oedd yno oleuni.
24
Edrychais tua'r mynyddoedd, ac wele hwy'n crynu, a'r holl fryniau yn gwegian.
25
Edrychais, ac wele, nid oedd neb oll; ac yr oedd holl adar y nefoedd wedi cilio.
26
Edrychais, ac wele'r dolydd yn ddiffeithwch, a'r holl ddinasoedd yn ddinistr, o achos yr ARGLWYDD, o achos angerdd ei lid.
27
Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: "Bydd yr holl wlad yn anrhaith, ond ni wnaf ddiwedd arni.
28
Am hyn fe alara'r ddaear, ac fe dywylla'r nefoedd fry, oherwydd imi fynegi fy mwriad; ac ni fydd yn edifar gennyf, ac ni throf yn l oddi wrtho."
29
Rhag trwst marchogion a phlygwyr bwa y mae'r holl ddinas yn ffoi, yn mynd i'r drysni ac yn dringo i'r creigiau. Gadewir yr holl ddinasoedd heb neb i drigo ynddynt.
30
A thithau'n anrheithiedig, beth wyt ti'n ei wneud wedi dy wisgo ag ysgarlad, ac wedi ymdrwsio thlysau aur, a lliwio dy lygaid? Yn ofer yr wyt yn dy wneud dy hun yn deg. Bydd dy gariadon yn dy ddirmygu, ac yn ceisio dy einioes.
31
Ie, clywaf gri fel gwraig yn esgor, llef ingol fel un yn esgor ar ei chyntafanedig cri merch Seion yn ochain, ac yn gwasgu ar ei dwylo: "Gwae fi! Rwy'n diffygio, a'r lleiddiaid am fy einioes."
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52