bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 1
Hebrews 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
1
Mewn llawer darn ac mewn llawer dull yn yr amser gynt y llefarodd Duw wrth y tadau yn y proffwydi; yn niwedd y dyddiau hyn llefarodd wrthym ni mewn mab.
2
Hwn a osododd ef yn etifedd popeth, a thrwy hwn hefyd y gwnaeth y cyfanfyd.
3
Hwn, ag yntau’n llewyrch ei ogoniant ef, ac yn argraff ei sylwedd ef, ac yn cynnal popeth drwy air ei allu ef, wedi gwneuthur glanhad pechodau, a eisteddodd ar ddeheulaw y mawrhydi yn yr uchelion,
4
wedi dyfod gymaint yn rhagorach na’r angylion ag ydyw yr enw a etifeddodd yn amgen na’r eiddynt hwy.
5
Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd erioed: “Fy mab wyt ti, myfi heddiw a’th genhedlodd e di”?
6
ac eto, “Byddaf fi iddo’n dad, a bydd yntau i mi’n fab”?A phan ddygo drachefn ei gyntafanedig at bobl y byd, dywed: “Ac ymgrymed o’i flaen ef holl angylion Duw”;
7
ac am yr angylion dywed: “Yr hwn sy’n gwneuthur ei angylion yn wyntoedd A’i weinidogion yn fflam dân,”
8
ond am y mab, “Dy orsedd di, Dduw, sydd yn oes oesoedd, a gwialen uniondeb, gwialen ei deyrnas ef yw.
9
Ceraist gyfiawnder, a chaseaist anghyfraith; oherwydd hynny, Dduw, y’th eneiniodd dy Dduw di ag olew gorfoledd rhagor dy gymheiriaid.”
10
Eto: “Ti yn y dechrau, Arglwydd, a seiliodd y ddaear, a gwaith dy ddwylo di ydyw’r nefoedd.
11
Hwynt-hwy a ddarfyddant, ond yr wyt ti’n aros, a hwy oll fel dilledyn a heneiddiant,
12
ac fel mantell y rholi di hwynt, fel dilledyn y trawsnewidir hwy; ond ti yr un ydwyt a’th flynyddoedd ni phallant.”
13
Wrth bwy, tybed, o’r angylion y dywedodd erioed: “Eistedd ar fy neheulaw i hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed”?
14
Onid ysbrydion gweini ydynt oll yn cael eu hanfon ar wasanaeth er mwyn y rhai a fydd yn etifeddu iachawdwriaeth?
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13