bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 7
Hebrews 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
1
Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham ar ei ffordd o daro’r brenhinoedd ac a’i bendithiodd,
2
a’r hwn y degymodd Abraham iddo ddegwm o bopeth, (dehonglir ei enw ef yn gyntaf yn Frenin Cyfiawnder, ac wedyn yn Frenin Salem, hynny yw, Brenin Heddwch),
3
nid oes ganddo dad na mam nac achau, na dechrau dyddiau na diwedd einioes, ond y mae wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fab Duw — y mae hwn yn para yn offeiriad am byth.
4
Ystyriwch gymaint gŵr oedd hwn y degymodd y patriarch Abraham iddo ddegwm y blaenffrwyth.
5
Yn awr am y rhai o feibion Lefi sy’n derbyn yr offeiriadaeth, y maent hwy dan rwymau i godi’r degwm yn ôl y gyfraith ar y bobl, hynny yw, ar eu brodyr eu hunain, er bod y rheiny wedi dyfod allan o lwynau Abraham.
6
Ond hwn, er nad oedd o’u hach hwy, cododd ei ddegwm ar Abraham, a bendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion ganddo.
7
Ac nid oes dadl nad y lleiaf o ddau a fendithir gan y mwyaf.
8
Ac yma marwolion sydd yn derbyn degwm, — ond yno, un y tystir amdano ei fod yn dal i fyw.
9
Ac mewn ffordd o siarad, trwy Abraham codwyd degwm hyd yn oed ar Lefi, derbyniwr y degwm,
10
canys yr oedd eisoes yn lwynau ei dad pan gyfarfu Melchisedec ag ef.
11
Os oedd felly berffeithrwydd trwy’r offeiriadaeth Lefiticaidd — canys ar sail hon y rhoddwyd cyfraith ar y bobl — pa raid wedyn oedd i offeiriad arall godi yn ôl urdd Melchisedec, ac nid ei enwi yn ôl urdd Aaron?
12
Canys pan fo newid ar yr offeiriadaeth, y mae, o angenrheidrwydd, newid cyfraith hefyd.
13
Canys yr hwn y dywedir y pethau hyn amdano, i lwyth arall y mae ef yn perthyn, ac o hwnnw nid oes neb wedi gweini wrth yr allor.
14
Canys y mae’n hysbys i bawb mai o Jwda yr hanoedd ein Harglwydd ni, llwyth na chyfeiriodd Moses ato ar fater offeiriaid.
15
Ac y mae’n fwy hysbys fyth, pan gyfyd offeiriad arall ar ddull Melchisedec,
16
a ddaeth nid yn ôl rheol sy’n gofyn am ach y cnawd, ond yn ôl nerth bywyd annistryw.
17
Canys tystir amdano, “offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec”.
18
Oherwydd y mae yma ddiddymiad ar hen orchymyn am ei fod yn ddi-rym ac yn ddi-les —
19
canys ni ddaeth y gyfraith â dim byd i ben — ond dygir i mewn, yn ei le, obaith gwell, yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw.
20
Ac yn gymaint nad heb lw y bu hyn —
21
canys heb lw y daeth y rhai hynny’n offeiriaid, ond hwn dan lw yng ngenau’r hwn sy’n dywedyd wrtho, “Tyngodd yr Arglwydd, ac ni newidia ei feddwl; offeiriad wyt ti yn dragywydd” —
22
gwell o hynny oedd y cyfamod y daeth Iesu’n feichiau drosto.
23
Am yr offeiriaid, fe wnaed llaweroedd ohonynt, am fod angau yn eu rhwystro i barhau,
24
ond hwn, am ei fod yn para yn dragywydd, y mae ganddo ef offeiriadaeth ddi-drosglwydd.
25
Am hynny, y mae ef yn abl i gadw hyd yr eithaf y rhai sy’n dyfod at Dduw drwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol ar eu rhan.
26
Canys dyma’r fath archoffeiriad oedd hefyd yn addas inni, un santaidd, diddrwg, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, wedi dyfod yn uwch na’r nefoedd,
27
nad oes raid arno beunydd, fel yr archoffeiriaid, offrymu’n gyntaf aberthau dros ei bechodau ef ei hunan, ac yna dros bechodau’r bobl. Canys hyn a wnaeth ef unwaith am byth pan offrymodd ef ei hun.
28
Canys y mae’r gyfraith yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt yn archoffeiriaid, ond gair y llw sydd ar ôl y gyfraith, [y mae hwnnw yn gwneuthur] Mab, wedi ei berffeithio yn dragywydd.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13