bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 4
Hebrews 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
1
Ofnwn, felly, a’r addewid wedi ei gadael y cawn ddyfod i mewn i’w orffwysfa, rhag dyfarnu neb ohonoch ar ôl.
2
Canys i ninnau hefyd megis iddynt hwy y daeth y newyddion da, ond nid elwasant hwy ar y gair a glywsant am nad oedd wedi ei gydrywiogi, drwy ffydd, â’r rhai a glywodd.
3
Canys yr ydym ni, y rhai a gredodd, yn myned i mewn i’r orffwysfa fel y mae’r gair, “Am hynny y tyngais yn fy llid, ‘Ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’ ”;ac eto y mae’r gwaith wedi ei orffen er seiliad y byd.
4
Y mae gair hefyd yn rhywle am y seithfed dydd fel hyn, “A gorffwysodd Duw ar y seithfed dydd oddi wrth ei holl waith”.
5
Ac yma hefyd, “ni chânt fyth ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i.”
6
Felly, gan fod hyn eto’n aros, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth i mewn, oherwydd anufudd-dod, y rhai a gafodd glywed gynt y newyddion da,
7
y mae ef drachefn yn pennu rhyw ddiwrnod, heddiw, drwy ddywedyd yn Nafydd ar ôl cymaint o amser, fel y dywedwyd o’r blaen, “Heddiw os clywch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau.”
8
Canys pe rhoesai Joswa orffwys iddynt, ni soniasai am ddiwrnod arall ar ôl hynny;
9
felly, y mae Sabath o orffwys yn aros i bobl Dduw;
10
canys y neb a aeth i mewn i’w orffwysfa, gorffwysodd hwnnw hefyd oddi wrth ei waith, megis Duw oddi wrth ei waith yntau.
11
Ymegnïwn, gan hynny, i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, rhag i neb syrthio yn yr un math o anufudd-dod.
12
Canys byw yw gair Duw, a llawn ynni, a llymach nag un cleddyf deufin, ac yn treiddio hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, y cymalau a’r mêr, ac yn farnwr ar amcanion a meddyliau’r galon.
13
Ac nid oes dim a grewyd yn anweledig yn ei ŵydd, ond y mae popeth yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef, yr hwn yr ydym ni yn gyfrifol iddo.
14
Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi myned drwy’r nefoedd, Iesu fab Duw, daliwn ein gafael yn ein cyffes;
15
canys nid archoffeiriad sydd gennym na all gydymdeimlo â’n gwendidau ni, ond un sydd wedi ei brofi ym mhopeth yr un ffunud heb bechod.
16
Am hynny, agosáwn mewn hyder at orsedd y gras, fel y derbyniom drugaredd ac y caffom ras yn gymorth yn ei bryd.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13