bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 5
Hebrews 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
1
Canys pob archoffeiriad, o ddynion y cymerir ef, a thros ddynion y gosodir ef yn y pethau a berthyn i Dduw i offrymu rhoddion ac aberthau dros bechodau,
2
a gall gydoddef â’r anwybodus a’r cyfeiliornus, gan ei fod yntau hefyd wedi ei amgylchu â gwendid,
3
ac oherwydd y gwendid hwnnw dylai aberthu dros bechodau ar ei ran ei hun fel ar ran y bobl.
4
Ac nid iddo’i hun y cymer neb yr urddas, ond ar alwad gan Dduw,
5
megis Aaron. Felly ’r Crist yntau, nid ef a’i gogoneddodd ei hun i fod yn archoffeiriad, ond yr hwn a ddywedodd wrtho, “Fy mab wyt ti, myfi heddiw a’th genhedlais di”;
6
megis y dywed hefyd mewn lle arall, “Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.”
7
Yn nyddiau ei gnawd, offrymodd hwn ag uchel lef a dagrau, weddïau ac ymbiliau i’r hwn a allai ei wared ef rhag angau, a chael gwrandawiad o achos ei barchedig ofn;
8
ac er mai mab ydoedd, fe ddysgodd ufudd-dod drwy ei ddioddefiadau,
9
ac ar ôl ei berffeithio, daeth i bawb sydd yn ufuddhau iddo, yn awdur iachawdwriaeth dragwyddol,
10
wedi ei gyfarch gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
11
Am hwn y mae gennym lawer i’w ddywedyd sydd yn anodd ei egluro gan eich bod wedi myned yn drwm eich clyw.
12
Canys pan ddylech, yn ôl amser, fod yn athrawon, y mae arnoch eisiau eto rywun i ddysgu i chwi elfennau cyntaf oraclau Duw, ac y mae hi wedi dyfod yn eisiau llaeth arnoch ac nid bwyd sylweddol.
13
Canys y mae’r neb sydd yn byw ar laeth yn anghyfarwydd ag athrawiaeth cyfiawnder, oherwydd baban ydyw.
14
Ond peth i bobl lawn dwf yw bwyd sylweddol, y rhai sydd, drwy ymarfer, â’u synhwyrau wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13