bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 2
Hebrews 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
1
Am hynny rhaid i ni ddal llwyrach sylw ar y pethau a glybuwyd, rhag digwydd rywdro i ni fyned heibio gyda’r llif.
2
Canys os oedd y gair a lefarwyd drwy angylion yn safadwy, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufudd-dod gyfiawn dâl,
3
pa fodd y dihangwn ni os byddwn ddibris o iachawdwriaeth mor fawr? — yr hon wedi cael ei dechreuad yn ymadrodd yr Arglwydd, a gadarnhawyd i ni gan y rhai a’i clywodd,
4
a Duw yn cyd-dystio drwy arwyddion a rhyfeddodau ac amryfal nerthoedd ac amryw gyfraniadau o’r Ysbryd Glân yn ôl ei ewyllys.
5
Canys nid i’r angylion y darostyngodd ef y byd a ddaw yr ydym yn sôn amdano.
6
Tystiodd rhywun yn rhywle a dywedyd: “Beth yw dyn fel y cofit amdano? neu fab dyn fel y dalit sylw arno?
7
Gwnaethost ef ryw ychydig yn is na’r angylion, â gogoniant ac anrhydedd y coronaist ef,
8
darostyngaist bopeth o dan ei draed ef.”Canys wrth ddywedyd “darostwng popeth” iddo ni adawodd ddim yn annarostyngedig iddo. Ond hyd yn hyn nid ydym yn gweled popeth wedi eu darostwng.
9
Ond am yr hwn sydd wedi ei wneuthur ryw ychydig yn is na’r angylion, yr ydym yn gweled Iesu, oherwydd dioddef marwolaeth, wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd, fel trwy ras Duw y byddai profiad ei farwolaeth dros bob dyn.
10
Canys gweddai iddo ef, yr hwn y mae popeth erddo a phopeth trwyddo, ar ôl iddo ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio pennaeth eu hiachawdwriaeth hwy drwy ddioddefiadau.
11
Canys yr hwn sydd yn santeiddio a’r rhai a santeiddir, o’r un y maent yn hanfod oll. Dyna’r achos nad oes arno gywilydd eu galw hwy yn frodyr,
12
gan ddywedyd: “Cyhoeddaf dy enw i’m brodyr, yng nghanol y gynulleidfa y canaf fawl i ti,”
13
a thrachefn, “Minnau, ynddo ef y bydd f’ymddiried,”a thrachefn, “Wele fi a’r plant a roddes Duw i mi.”
14
Gan fod y plant, felly, yn gyfranogion o gig a gwaed, aeth yntau hefyd mewn cyffelyb fodd yn gyfrannog ohonynt, fel trwy farwolaeth y diddymai yr hwn a oedd yn meddu arglwyddiaeth ar farwolaeth — hynny yw, y diafol —
15
ac fel y rhyddhâi’r rhai oedd drwy ofn marwolaeth ar hyd eu hoes yng ngafael caethiwed.
16
Canys, bid sicr, nid yn yr angylion y mae’n ymaflyd, ond ymaflyd yn had Abraham y mae.
17
O ganlyniad, yr oedd yn rhaid iddo gael ei wneuthur yn debyg i’w frodyr ym mhob peth, fel y byddai dosturiol, a ffyddlon archoffeiriad yn y pethau a berthyn i Dduw, i wneuthur dyhuddiant am bechodau’r bobl;
18
canys am ddioddef ohono ei hunan trwy ei brofi, am hynny y gall ef gynorthwyo’r rhai sydd dan y prawf.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13