bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 6
Hebrews 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
1
Am hynny, gan adael y wers gyntaf am y Crist, gyrrwn ymlaen at y llawn dyfiant, heb ailosod sylfaen o edifeirwch am weithredoedd meirwon ac o ffydd ar Dduw,
2
sef y ddysg am fedyddiadau, arddodiad dwylo, atgyfodiad y meirw, a barn dragwyddol —
3
yr hyn a wnawn, os caniatâ Duw.
4
Canys y rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofodd y rhodd nefol, ac a ddaeth yn gyfrannog o’r ysbryd glân,
5
ac a brofodd air Duw yn dda a nerthoedd y byd a ddaw —
6
ac a gwympodd ymaith wedyn — amhosibl adnewyddu’r rhain i edifeirwch, gan eu bod yn croeshoelio iddynt eu hunain fab Duw a’i osod yn wawd.
7
Canys tir yn yfed y glaw a ddaw’n fynych arno ac yn dwyn llysiau addas i’r rhai y trinir ef hefyd er eu mwyn, y mae hwnnw yn cyfranogi o fendith gan Dduw;
8
ond os drain ac ysgall a ddwg y mae’n wrthodedig ac ar fin melltith, a’i ddiwedd fydd ei losgi.
9
Ond yr oeddem ni’n hyderu amdanoch chwi, rai annwyl, bethau gwell ac yn perthyn i iachawdwriaeth, er ein bod yn siarad fel hyn.
10
Canys nid yw Duw yn anghyfiawn fel yr anghofiaf eich gwaith chwi a’r cariad a ddangosasoch at ei enw ef wrth weini i’r saint, a dal i weini.
11
Ond chwenychwn i bob un ohonoch ddangos yr un awydd am gyfiawnder y gobaith i’r pen draw,
12
fel na byddoch swrth, ond yn efelychwyr y rhai sydd trwy ffydd a dyfalwch yn etifeddu’r addewidion.
13
Canys pan roes Duw ei addewid i Abraham — gan nad oedd ganddo neb mwy i
14
dyngu wrtho — fe dyngodd wrtho’i hun a dywedyd, “Yn wir, gan fendithio mi a’th fendithiaf, a chan amlhau mi a’th amlhaf di,”
15
ac fel hyn trwy ei ddyfalwch, daeth yr addewid i’w ran.
16
Canys wrth un sydd fwy y bydd dynion yn tyngu, ac iddynt hwy diwedd pob dadl i gadarnhau’r mater ydyw’r llw.
17
Am hyn, ag yntau’n ewyllysio dangos yn helaethach i etifeddion yr addewid, ddianwadalwch ei gyngor, cyfryngodd Duw dan lw,
18
fel drwy ddwy weithred ddianwadal — y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog ynddynt — y caffom ni galondid cryf, y rhai a ffodd i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen.
19
Ac y mae hwn gennym ni fel angor yr enaid, yn ddiogel ac yn ddiysgog, ac yn myned drwodd hyd at oddi mewn i’r llen,
20
i’r lle’r aeth Iesu yn rhagredegydd drosom, pan ddaeth yn archoffeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13