bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 11
Hebrews 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
1
Yn awr, ffydd yw sicrhad pethau a obeithir ac argyhoeddiad o bethau ni welir.
2
Canys ar ei phwys hi y dygwyd tystiolaeth i’r hen saint.
3
Trwy ffydd, yr ydym yn deall lunio’r cyfanfyd trwy air Duw, yn gymaint nad o bethau gweladwy y mae’r peth a welir wedi dyfod.
4
Trwy ffydd yr aberthodd Abel i Dduw amgen offrwm na Chaen, a thrwy hon y dygwyd tystiolaeth iddo ei fod yn gyfiawn, gan fod Duw yn tystiolaethu ar bwys ei roddion; a thrwy hon, y mae ef, wedi marw, yn llefaru eto.
5
Trwy ffydd y symudwyd Enoch fel na welodd angau, ac nis caed ef am fod Duw wedi ei symud, canys cyn ei symudiad y mae tystiolaeth amdano ddarfod iddo ryngu bodd Duw;
6
a heb ffydd amhosibl rhyngu bodd. Canys rhaid i’r neb a nesao at Dduw gredu ei fod a’i fod yn dalwr i’r rhai sy’n ei geisio.
7
Trwy ffydd yr adeiladodd Noa, mewn parchedig ofn, arch er achub ei dŷ, ar ôl cael datguddiad am y pethau a oedd eto’n anweledig, a thrwyddi hi y rhoes gondemniad ar y byd ac y daeth yn etifedd y cyfiawnder sydd yn ôl ffydd.
8
Trwy ffydd yr ufuddhaodd Abraham pan alwyd ef i fyned allan i le yr oedd i’w dderbyn yn etifeddiaeth, ac allan yr aeth heb wybod i ba le yr oedd yn myned.
9
Trwy ffydd y tariodd yn nhir yr addewid fel mewn tir estron, a thrigo mewn pebyll, gydag Isaac a Jacob, cyd-etifeddion yr un addewid.
10
Canys disgwyl yr oedd am y ddinas y mae iddi sylfeini, a Duw yn gynllunnydd ac yn saer iddi.
11
Trwy ffydd y cafodd Sara hithau nerth i ymddŵyn wedi derbyn yr had, ac yn groes i adeg ei hoedran, am ei bod wedi barnu’n ffyddlon yr hwn a addawodd.
12
Am hynny hefyd y cenhedlwyd o un yn unig, a hynny o ddyn cystal â marw, megis sêr y nef mewn amlder ac fel y tywod ar lan y môr sydd yn aneirif.
13
Yn ôl ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb feddiannu’r addewidion, ond eu gweled o bell a’u croesawu, a chyffesu mai dieithriaid ac alltudion oeddynt ar y ddaear.
14
Canys y mae’r rhai sy’n dywedyd fel hyn yn dangos mai cartref a geisiant.
15
A bid sicr, pe buasent yn meddwl am y wlad y daethent allan ohoni, buasai ganddynt amser i ddychwelyd;
16
ond, yn wir, am wlad well y maent yn ymestyn, hynny yw, un nefol. Am hyn nid oes ar Dduw gywilydd ohonynt, [a] chael ei alw yn Dduw iddynt, canys paratoes iddynt ddinas.
17
Trwy ffydd y cawn i Abraham ddwyn Isaac yn offrwm pan oedd yn cael ei brofi; ie, ei uniganedig a ddug y gŵr a dderbyniasai’r addewidion
18
ac y dywedwyd wrtho mai “yn Isaac y bydd i ti had ar d’enw,”
19
wedi iddo gyfrif bod Duw yn abl i godi hyd yn oed o feirw; ac yn wir, mewn ffigur, oddi yno y derbyniodd ef yn ôl.
20
Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau hefyd am bethau i ddyfod.
21
Trwy ffydd y bendithiodd Jacob ar ei wely angau feibion Joseff bob un, ac yr ymgrymodd ar ben ei ffon.
22
Trwy ffydd y coffaodd Joseff yn ei ddiwedd am fynediad meibion Israel allan, ac y rhoddodd orchymyn ynghylch ei esgyrn.
23
Trwy ffydd, pan aned Moses, y cuddiwyd ef am dri mis gan ei rieni oherwydd iddynt weled y plentyn yn dlws, ac nid ofnasant orchymyn y brenin.
24
Trwy ffydd, wedi iddo ddyfod yn fawr, y gwrthododd Moses ei alw yn fab merch Pharo,
25
gan ddewis yn hytrach oddef ei gam-drin ynghwmni pobl Dduw na chael mwynhad pechod dros dro,
26
am iddo gyfrif gwaradwydd yr Eneiniog yn fwy golud na thrysorau’r Aifft; canys draw ar y daledigaeth yr oedd ei olwg.
27
Trwy ffydd y gadawodd yr Aifft, nid am ei fod wedi ofni llid y brenin; canys fel un yn gweled yr anweledig y bu’n ddiysgog.
28
Trwy ffydd y cawn iddo gadw y Pasg a thaenelliad y gwaed, rhag i’r hwn a oedd yn dinistrio’r cyntafanedig gyffwrdd â hwynt.
29
Trwy ffydd yr aethant trwy’r Môr Coch fel drwy dir sych, ond pan wnaeth yr Eifftiaid gynnig arno, llyncwyd hwy yn llwyr.
30
Trwy ffydd y cwympodd caerau Jericho ar ôl eu hamgylchu am saith niwrnod.
31
Trwy ffydd ni chollwyd Rahab y butain gyda’r rhai a fu anufudd, am dderbyn ohoni yr ysbïwyr mewn heddwch.
32
A beth a ddywedaf ymhellach? Canys fe ballai amser i mi adrodd am Gideon, Barac, Samson, Jefftha, Dafydd, a Samuel, a’r proffwydi,
33
y rhai drwy ffydd a loriodd deyrnasoedd, a weithredodd gyfiawnder, a gafodd afael ar addewidion, a gaeodd safnau llewod,
34
a ddiffoddodd angerdd tân, a ddihangodd rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a ddaeth yn gedyrn mewn rhyfel, a yrrodd ar ffo rengau estroniaid;
35
cafodd gwragedd eu meirw drwy atgyfodiad; arteithiwyd eraill ar yr olwyn, wedi iddynt wrthod derbyn y ddihangfa, fel y caffent well atgyfodiad.
36
Cafodd eraill brofiad o’u gwatwar a’u fflangellu, ie, o gadwynau a charchar;
37
llabyddiwyd hwy, cystuddiwyd hwy, llifiwyd hwy, lladdwyd hwy â lladdedigaeth y cleddyf, buont o fan i fan mewn crwyn defaid, mewn crwyn geifr, yn anghenus, yn adfydus, dan gamdriniaeth, —
38
dynion nad oedd y byd yn deilwng ohonynt, yn crwydro mewn diffeithleoedd a mynyddoedd ac ogofeydd a thyllau’r ddaear.
39
A’r rhain oll, er iddynt ennill tystiolaeth amdanynt drwy eu ffydd, ni chawsant yr addewid,
40
gan fod Duw wedi darpar rhywbeth gwell ar ein cyfer ni, fel hebom ni na pherffeithid hwy.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13