bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 9
Hebrews 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
1
Yn awr, yr oedd hyd yn oed i’r cyntaf ordinhadau gwasanaeth a chysegr daearol;
2
canys yr oedd pabell wedi ei chodi, y gyntaf, lle yr oedd y canhwyllbren a’r bwrdd a gosodiad y bara, — dyma’r lle a elwir yn Gysegr.
3
Tu ôl i’r ail len yr oedd y babell a elwir y Cysegr Santeiddiolaf,
4
ac ynddi thuser aur, ac arch y cyfamod wedi ei gorchuddio drosti ag aur, ac yn hon yr oedd llestr aur yn dal y manna, a gwialen Aaron a flagurodd unwaith, a llechau’r cyfamod,
5
ac uwch ei phen gerubiaid y gogoniant yn cysgodi dros y drugareddfa; am y rhain ni ellir yn awr sôn bob yn un.
6
A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, fe â’r offeiriaid yn eu swydd wrth eu gwasanaeth i mewn i’r babell gyntaf bob amser;
7
ond i’r ail unwaith yn y flwyddyn yr â’r archoffeiriad, ac nid neb arall, a hynny nid heb waed, sef ei offrwm drosto’i hun a thros gyfeiliornadau’r bobl.
8
Dyma’r hyn a ddengys yr Ysbryd Glân, nad yw’r ffordd i’r cysegr eto wedi ei hagor cyhyd ag y bo’r babell gyntaf yn sefyll;
9
cysgod yw hon ar gyfer ei hamser ei hun, ac yn ôl ei threfn offrymir rhoddion ac aberthau na allant berffeithio’r gweinidog yn ei gydwybod, gan mai ordinhadau’r cnawd ydynt,
10
yn dibynnu ar fwydydd a diodydd ac amrywiol olchiadau, hyd amser y diwygiad.
11
Ond Crist, wedi dyfod gerbron yn archoffeiriad y pethau da a gafwyd — drwy well a pherffeithiach pabell, nid o waith llaw (hynny yw, nid o’r cread hwn),
12
ac nid gyda gwaed geifr a lloi, ond gyda’i waed ei hun yr aeth ef i mewn unwaith am byth i’r cysegr, wedi iddo gael ffordd o dragwyddol ryddhâd.
13
Canys os yw gwaed geifr a theirw a lludw anner ar daen ar yr halogion yn dihalogi cyn belled â glanhad y cnawd,
14
pa faint mwy y bydd gwaed Crist a’i hoffrymodd ei hun drwy ysbryd tragwyddol yn ddi-fefl i Dduw, yn glanhau ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon i wasanaethu Duw byw?
15
A chyfryngwr cyfamod newydd ydyw oherwydd hyn, — fel, wedi bod marwolaeth er rhyddhad oddi wrth y camweddau dan y cyfamod cyntaf, y derbynio’r rhai a alwyd eu haddewid, sef yr etifeddiaeth dragwyddol.
16
Canys lle y bo testament, rhaid tybio marwolaeth y testamentwr,
17
canys peth yw testament sydd yn sefyll pan fo dynion wedi marw, oherwydd nid oes dim grym ynddo tra fo’r testamentwr yn fyw.
18
Am hynny, nid oedd sefydliad hyd yn oed y cyntaf heb waed,
19
canys wedi cyhoeddi o Foses bob gorchymyn yn ôl y gyfraith i’r holl bobl, cymerodd ef waed y lloi a’r geifr gyda dŵr a gwlân porffor ac isop, a thaenellodd y llyfr a’r holl bobl hefyd,
20
a dywedyd, “Dyma waed y cyfamod a osododd Duw arnoch chwi;”
21
a’r babell hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd yn yr un modd â gwaed.
22
A bron na ddywedwn mai â gwaed y glanheir popeth yn ôl y gyfraith, a heb ollwng gwaed ni cheir maddeuant.
23
Rhaid oedd, felly, i gysgodau’r pethau yn y nefoedd gael eu glanhau â’r pethau hyn, ond y nefolion bethau eu hunain ag aberthau gwell rhagor y rhain.
24
Canys nid i gysegr o waith llaw, cyffelybiaeth y gwir bethau, yr aeth Crist i mewn, ond i’r nef ei hun i’w weled yn awr yn eglur gerbron Duw drosom ni;
25
ac nid i’w offrymu ei hun lawer gwaith, fel y bydd yr archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn â gwaed un arall,
26
canys yna rhaid fuasai iddo ddioddef lawer gwaith er seiliad y byd; ond yn awr unwaith am byth, ar gyflawnhad yr oesau, y mae ef wedi ei ddatguddio er diddymiad pechod drwy ei aberth ei hun.
27
Ac yn gymaint â’i bod wedi ei gosod i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny, barn,
28
felly Crist hefyd wedi ei offrymu un waith i ddwyn arno bechodau llaweroedd, a ymddengys yr ail waith heb berthynas â phechod i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl er iachawdwriaeth.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13