bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 10
Hebrews 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
1
Gan mai cysgod sydd gan y gyfraith o’r pethau da i ddyfod, ac nid gwir ddull y pethau, ni all hi byth berffeithio’r rhai sy’n nesáu o flwyddyn i flwyddyn gyda’r un aberthau ag a offrymant byth a hefyd.
2
Canys oni pheidiasid â’u hoffrymu, gan na buasai mwyach ymwybod â phechodau gan addolwyr a oedd wedi eu glanhau unwaith?
3
Ond y mae yn y rhain goffa am bechodau bob blwyddyn,
4
canys ni all gwaed teirw a geifr symud ymaith bechodau.
5
Felly wrth ddyfod i’r byd fe ddywed, “Aberth ac offrwm ni tynnaist, corff yn hytrach a ddarperaist imi.
6
Offrymau llosg, a rhai dros bechod ni ryngasant dy fodd.
7
Yna y dywedais: Wele fi wedi dyfod; yn rhoi y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf, I wneuthur, o Dduw, dy ewyllys.”
8
Wrth ddywedyd i ddechrau, “aberthau ac offrymau ac offrymau llosg a rhai dros bechod ni tynnaist ac ni ryngwyd dy fodd ynddynt,” y rhai a offrymir yn ôl y gyfraith,
9
“yna” — cawn iddo ddywedyd — “wele fi wedi dyfod i wneuthur dy ewyllys di.” Y mae’n diddymu’r cyntaf er mwyn sefydlu’r ail.
10
Yn yr ewyllys hon yr ydym wedi ein santeiddio drwy offrwm corff Iesu Grist unwaith am byth.
11
Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn ei wasanaeth ac yn offrymu’r un aberthau lawer gwaith, y rhai ni allant byth dynnu ymaith bechodau, —
12
ond hwn wedi iddo offrymu un aberth am byth dros bechodau, a aeth i eistedd ar ddeheulaw Duw,
13
yn disgwyl bellach hyd oni osoder ei elynion yn droedfainc i’w draed;
14
canys ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a santeiddir.
15
Ond y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; canys ar ôl dywedyd,
16
“Hwn yw’r cyfamod a wnaf â hwynt wedi’r dyddiau hynny, medd yr Arglwydd. Mi a roddaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac ar eu meddwl yr ysgrifennaf hwynt,”
17
[yna y mae’n dywedyd], “A’u pechodau hwynt a’u troseddau ni chofiaf byth mwy.”
18
Yn awr, lle y ceir maddeuant o’r rhain, nid oes mwy offrwm dros bechod.
19
Felly, frodyr, gan fod gennym hyder hyd at fyned i mewn i’r cysegr drwy waed Iesu
20
ar hyd ffordd newydd a byw a agorodd ef i ni drwy’r llen, hynny yw, ei gnawd ef,
21
a bod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw,
22
nesáwn gyda chalon gywir mewn cyflawnder ffydd, a’n calonnau wedi eu taenellu’n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a’n corff wedi ei olchi â dŵr glân.
23
Daliwn gyffes ein gobaith yn ddiwyro, canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd,
24
a gwyliwn ar ein gilydd i gyffroi cariad a gweithredoedd da,
25
heb droi’n cefnau ar ein cydymgynnull ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog, a hynny’n fwy gan eich bod yn gweled y dydd yn nesáu.
26
Canys os o’n gwirfodd y pechwn ar ôl derbyn adnabyddiaeth o’r gwirionedd, nid oes bellach ddim aberth dros bechodau,
27
ond rhyw ddychrynllyd aros barn, ac angerdd tân a fydd yn ysu’r gwrthwynebwyr.
28
Pwy bynnag a fu’n ddibris o gyfraith Moses a leddir heb drugaredd ar air dau neu dri o dystion.
29
Pa faint gwaeth cosb, debygwch chwi, a ddyfernir i’r hwn a fathrodd fab Duw, ac a gymerodd yn beth cyffredin waed y cyfamod â’r hwn y santeiddiwyd ef, ac a fwriodd sarhad ar ysbryd y gras?
30
Canys yr ydym yn gwybod am yr hwn a ddywedodd, “Myfi piau dialedd, myfi a dalaf y pwyth”; a thrachefn, “Barna’r Arglwydd ei bobl.”
31
Ofnadwy o beth yw cwympo i ddwylo Duw byw.
32
Gelwch i gof y dyddiau gynt pryd, â chwi wedi eich goleuo, yr ymgynaliasoch dan galedi mawr o ddioddefiadau —
33
yn cael gwneuthur arddangosfa ohonoch mewn sarhadau ac ingoedd, neu ynteu wedi dyfod i gymdeithas y rhai oedd â’u helynt felly.
34
Canys â’r carcharorion y cyd-ddioddefasoch, a’r ysbeiliad o’ch meddiannau a dderbyniasoch mewn llawenydd, gan wybod bod gennych chwi eich hunain feddiant gwell ac arhosol.
35
Na ollyngwch o’ch gafael, felly, eich hyder, sydd ag iddo fawr wobr.
36
Canys amynedd sydd yn rhaid i chwi fel, wedi gwneuthur ewyllys Duw, y caffoch yr addewid.
37
Canys ychydig bach eto, ac fe ddaw’r hwn sydd yn dyfod, ac nid oeda.
38
Ond fy nghyfiawn i, drwy ffydd y bydd byw, ac os cilia’n ôl, ni ryngir bodd fy enaid ynddo.
39
Eithr ni, nid pobl y cilio’n ôl i golledigaeth ydym, ond pobl y ffydd i feddiant o’r enaid.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13