bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 8
Hebrews 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
1
Ac yn ben ar yr hyn yr ydym yn sôn amdano: dyma’r fath archoffeiriad sydd gennym, un a eisteddodd ar ddeheulaw gorsedd y mawrhydi yn y nefoedd,
2
yn weinidog y cysegr a’r gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd ac nid dyn.
3
Yn awr, pob archoffeiriad, i offrymu rhoddion ac aberthau y penodir ef, ac felly rhaid bod gan hwn hefyd rywbeth i’w offrymu.
4
Gan hynny, pe byddai ar y ddaear, ni byddai’n offeiriad, am fod yma yn barod rai i offrymu rhoddion yn ôl y gyfraith;
5
ac i ddarlun a chysgod y pethau nefol y mae’r rhain yn gweini, fel y gorchmynnwyd i Foses pan oedd ar godi’r tabernacl. Canys “Gwêl,” meddai, “wneuthur ohonot bopeth yn ôl y cynllun a ddangoswyd i ti yn y mynydd.”
6
Ond yn awr cafodd ef amgenach gweinidogaeth, yn gymaint â’i fod yn gyfryngwr gwell cyfamod a sefydlwyd ar bwys gwell addewidion;
7
canys pe buasai’r cyntaf hwnnw yn ddifai, ni cheisiasid lle i un arall.
8
Canys dan feio arnynt y dywed, “Wele, y mae’r dyddiau’n dyfod, medd yr Arglwydd, y byddaf yn pennu ar dŷ Israel ac ar dŷ Jwda gyfamod newydd,
9
nid yn ôl y cyfamod a wneuthum i’w tadau hwynt yn y dydd y gafaelais yn eu llaw hwynt i’w harwain allan o dir yr Aifft am nad arosasant hwy yn fy nghyfamod i, a minnau a fûm ddibris ohonynt, medd yr Arglwydd,
10
canys hwn yw’r cyfamod a osodaf i dŷ Israel, ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd. Rhoddaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl hwynt ac ar eu calonnau yr ysgrifennaf hwynt. A byddaf iddynt yn Dduw, a byddant hwythau i mi yn bobl.
11
A mwyach ni ddysgant bob un ei gymydog a phob un ei frawd, a dywedyd, ‘Adnebydd yr Arglwydd,’ Canys bydd pawb yn f’adnabod o fach hyd fawr ohonynt,
12
canys tyner fyddaf wrth eu hanwireddau hwy, ac am eu pechodau ni bydd mwyach gof gennyf.”
13
Wrth ddywedyd “newydd,” y mae wedi cyhoeddi’r cyntaf yn hen. Ac y mae’r peth a gyhoeddir yn hen ac sydd yn oedrannus yn ymyl ei dranc.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13