bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 13
Hebrews 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
1
Parhaed eich brawdgarwch,
2
eich lletygarwch nac anghofiwch; canys trwy hyn y croesawodd rhywrai angylion heb wybod.
3
Deliwch i gofio am y carcharorion fel pe baech yng ngharchar gyda hwy, y rhai a gamdrinir gan eich bod chwithau hefyd mewn corff o gnawd.
4
Bydded priodas mewn anrhydedd gan bawb, a’r gwely yn ddihalog, canys puteinwyr a godinebwyr a farn Duw.
5
Bydded eich bryd yn ddiariangar, gan fod yn fodlon ar yr hyn sydd gennych. Canys dywedodd ef, “Ni’th ollyngaf ddim ac ni chefnaf arnat,”
6
ac am hynny y dywedwn yn galonnog, “Yr Arglwydd yw fy nghymorth, nid ofnaf; Beth a all dyn ei wneuthur imi?”
7
Cedwch mewn cof eich arweinwyr a lefarodd wrthych air Duw; gan syllu ar ddiwedd eu hymarweddiad hwynt, efelychwch eu ffydd.
8
Iesu Grist ddoe a heddiw yr un, ac yn dragywydd.
9
Na chamarweinier chwi gan athrawiaethau amryliw a dieithr. Canys da yw bod y galon wedi ei chadarnhau â gras, nid â bwydydd na fuont ddim llesâd i’r rhai a oedd yn ymarfer â hwynt.
10
Y mae gennym allor nad oes gan y rhai sy’n gwasanaethu’r tabernacl hawl i fwyta ohoni.
11
Canys yr anifeiliaid y dygir eu gwaed dros bechod i’r cysegr drwy law’r archoffeiriad, llosgir cyrff y rhai hynny tu allan i’r gwersyll.
12
Gan hynny, tu allan i’r porth y dioddefodd Iesu hefyd fel y santeiddiai’r bobl drwy ei waed ei hun.
13
Am hynny, awn allan ato ef tu allan i’r gwersyll, gan ddwyn ei sarhad.
14
Canys nid oes gennym yma ddinas arhosol, ond yr un a ddaw yr ydym yn ei cheisio.
15
Trwyddo ef, gan hynny, offrymwn aberth moliant yn wastad i Dduw, hynny yw ffrwyth gwefusau yn arddel ei enw ef.
16
Ond na fyddwch anghofus o gymwynas a chyfrannu, canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
17
Byddwch ufudd i’ch arweinwyr ac ymostyngwch iddynt, canys y maent hwy yn effro i wylio dros eich eneidiau chwi fel rhai sydd i roddi cyfrif, fel y caffont wneuthur hyn. mewn llawenydd ac nid dan duchan; canys di-fudd i chwi yw hynny.
18
Gweddïwch drosom: canys yr ydym yn sicr fod gennym gydwybod dda, a ni’n dymuno byw’n onest ym mhopeth.
19
Yr wyf yn daerach fyth yn eich annog i wneuthur hyn er mwyn fy adfer atoch yn gynt.
20
Duw’r tangnefedd a ddug o’r meirw fugail mawr y defaid drwy waed y cyfamod tragwyddol, ein Harglwydd Iesu,
21
a’ch cyflanwo â phopeth da er gwneuthur ei ewyllys ef, gan gynhyrchu ynom yr hyn sydd gymeradwy ganddo ef trwy Iesu Grist; i’r hwn boed y gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
22
Yr wyf yn deisyfu arnoch, frodyr, goddefwch air yr anogaeth hon, canys mewn byr eiriau yr anfonais lythyr atoch.
23
Gwybyddwch fod ein brawd Timotheus wedi ei ryddhau; os daw yn weddol fuan, gwelaf chwi gydag ef.
24
Cyferchwch eich holl arweinwyr a’r holl saint. Y mae gwŷr yr Eidal yn eich cyfarch.
25
Gras a fo gyda chwi oll.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13