bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 3
Hebrews 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
1
Am hynny, frodyr a saint, chwychwi sy’n gyfrannog o’r alwad nefol, ystyriwch gennad ac archoffeiriad ein proffes ni, Iesu,
2
fel y mae’n ffyddlon i’r hwn a’i gosododd, fel Moses yntau yn ei holl dŷ ef.
3
Canys teilwng o fwy gogoniant na Moses y barnwyd hwn, i’r mesur y mae gan y sawl a adeiladodd dŷ fwy anrhydedd na’r tŷ;
4
oherwydd adeiledir pob tŷ gan rywun, ond y neb a adeiladodd bopeth, Duw ydyw.
5
Ac am Foses, ffyddlon oedd ef yn ei holl dŷ ef fel gwas er tystiolaethu am y pethau oedd i’w mynegi,
6
ond Crist fel mab dros ei dŷ ef. A’i dŷ ef ydym ni, os cymerwn afael yn dynn yn hyder ac ymffrost ein gobaith hyd y diwedd.
7
Gan hynny, fel y dywed yr Ysbryd Glân: “Heddiw os clywch ei lais ef,
8
Na chaledwch eich calonnau megis yn y Chwerwedd, Yn null dydd y profi yn yr anialwch,
9
lle y rhoes eich tadau chwi brawf arnaf, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd.
10
Gan hynny, mi a sorrais wrth y genhedlaeth honno, a dywedais, ‘yn wastad y mae eu calonnau ar gyfeiliorn, ac nid adnabuant hwy fy ffyrdd i.’
11
Am hynny y tyngais yn fy llid, ‘Byth ni chânt ddyfod i mewn i’m gorffwysfa i’.”
12
Edrychwch, frodyr, na bo gan neb ohonoch fyth ddrwg galon anghrediniaeth, mewn gwrthgiliad oddi wrth y Duw byw,
13
ond cymhellwch eich gilydd beunydd, tra gelwir hi’n heddiw, fel na chaleder neb ohonoch gan dwyll pechod.
14
Canys yr ydym bellach yn gyfranogion o Grist, os cymerwn afael yn dynn hyd y diwedd yn ein sicrwydd cyntaf.
15
Yn y geiriau, “Heddiw os clywch ei lais ef, Na chaledwch eich calonnau megis yn y Chwerwedd,”
16
pwy, felly, wedi ei glywed, a’i chwerwodd? Onid pawb a ddaeth allan o’r Aifft trwy Foses?
17
Wrth bwy y sorrodd ef ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai a bechodd, y rhai a gwympodd yn gelanedd yn yr anialwch?
18
Wrth bwy y tyngodd na chaent ddyfod i mewn i’w orffwysfa ef onid wrth y rhai a anufuddhaodd?
19
A gwelwn mai trwy anghrediniaeth y methasant ddyfod i mewn.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13