bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Hebrews 12
Hebrews 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
1
Am hynny, ninnau hefyd gan fod gennym gymaint cwmwl o dystion o’n hamgylch, bwriwn ymaith bob trymlwyth a’r pechod sy’n barod i ymglymu amdanom, a rhedwn yn ddygn y cwrs sydd yn ymestyn o’n blaen,
2
gan gadw ein golwg ar bennaeth a chwblhawr y ffydd, Iesu, yr hwn er mwyn y llawenydd a oedd yn ei aros, a ymddygnodd dan groes gan iddo ddiystyru gwarth, ac y sydd yn eistedd ar ddeheulaw gorsedd Duw.
3
Canys, ystyriwch yr hwn a ymddygnodd dan y fath elyniaeth tuag ato gan bechaduriaid, rhag i chwi ymollwng yn eich eneidiau a blino.
4
Hyd yn hyn nid ydych wedi gwrthsefyll hyd at waed yn eich brwydr yn erbyn pechod,
5
ac yr ydych wedi anghofio’r anogaeth sydd yn ymliw â chwi megis â meibion, “Fy mab, na fydd ddibris o ddisgyblaeth yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan argyhoedder di ganddo;
6
canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu y mae’n ei ddisgyblu, ac y mae’n curo pob mab y mae’n ei arddel.”
7
Ymddygnwch er disgyblaeth; fel at feibion y mae Duw yn ymddwyn atoch. Canys pa fab nad yw ei dad yn ei ddisgyblu?
8
Ond os ydych heb ddisgyblaeth, yr hon y mae pawb yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych ac nid meibion.
9
Heblaw hynny, yr oedd gennym dadau i’n cnawd ni yn ein disgyblu, a pharchem hwynt. Onid oes mwy o lawer o achos i ni ymddarostwng i dad ein hysbrydoedd, a byw?
10
Canys am ychydig ddyddiau, ac fel y gwelent yn dda, y byddent hwy yn disgyblu, ond hwn er ein lles, er mwyn inni fod yn gyfrannog o’i santeiddrwydd ef.
11
Canys nid oes yr un ddisgyblaeth dros yr amser presennol yn edrych yn beth hyfryd ond yn beth gofidus, ond wedi hynny y mae’n talu’n ôl mewn heddychlon ffrwyth cyfiawnder i’r rhai a fu dan ei goruchwyliaeth hi.
12
Am hynny, unionwch y dwylo sydd wedi llaesu a’r gliniau sydd wedi ymollwng,
13
a gwnewch lwybrau union i’ch traed rhag troi’r aelod cloff o’i le ond yn hytrach ei iacháu.
14
Dilynwch dangnefedd gyda phawb, a’r santeiddhad na wêl neb yr Arglwydd hebddo,
15
gan wylio na bo neb yn syrthio’n ôl o ras Duw, na bo un gwreiddyn chwerwedd yn codi ei ben ac yn peri blinder a llygru’r lliaws drwyddo,
16
na bo un puteiniwr na halog megis Esau, a roddodd freintiau ei enedigaeth yn gyfnewid am un pryd o fwyd.
17
Canys gwyddoch iddo ef hefyd, pan oedd wedi hynny yn ewyllysio etifeddu’r fendith, gael ei wrthod, — oherwydd ni chafodd gyfle i ailfeddwl, — er iddo gyda dagrau grefu amdani.
18
Yn awr, nid at dân y gellir ei deimlo ac y sydd yn llosgi y daethoch, ac at gaddug a mwrllwch a chorwynt
19
a bloedd utgorn a llais gorchmynion, nes i’r rhai a’i clywodd ddeisyfu nad ychwanegid gair wrthynt,
20
oherwydd na allent oddef y gorchymyn, “ac os cyffwrdd hyd yn oed anifail â’r mynydd, llabyddier ef.”
21
Ac mor ofnadwy oedd yr olwg fel y dywedodd Moses, Yr wyf wedi dychryn ac yn crynu.
22
Ond at fynydd Seion y daethoch ac at ddinas y Duw byw, y Gaersalem nefol, a myrddiynau o angylion,
23
cymanfa a chynulleidfa rhai cyntafanedig sydd â’u henwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd, ac at Dduw, farnwr pawb, ac at ysbrydoedd rhai cyfiawn sydd wedi eu perffeithio, ac at Iesu,
24
cyfryngwr cyfamod newydd, ac at waed taenelliad sydd yn dywedyd peth gwell nag Abel.
25
Edrychwch na ddeisyfoch rhag clywed yr hwn sy’n llefaru, canys oni ddihangodd y rhai a ddeisyfodd rhag clywed yr hwn oedd yn cyhoeddi ar y ddaear, mwy o lawer, [ni ddihangwn] ni wrth droi ymaith oddi wrth yr hwn sy’n cyhoeddi o’r nefoedd;
26
siglodd llais hwn y ddaear y pryd hynny, ond yn awr, y mae wedi addo gan ddywedyd, eto unwaith mi a siglaf nid yn unig y ddaear ond y nef hefyd.
27
Ond y mae’r unwaith eto hwn yn golygu symud y pethau a siglir megis pethau creëdig, fel yr arhoso’r pethau di-sigl.
28
Am hynny, gan mai teyrnas ddi-sigl yr ydym yn ei derbyn, byddwn ddiolchgar, a thrwy hynny gwasanaethwn Dduw wrth ei fodd, â pharch ac ofn.
29
Canys yn wir ein Duw ni sydd dân ysol.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13