bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 1
Exodus 1
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 2 →
1
Dyma enwau meibion Israel, aeth i'r Aifft gyda'u tad Jacob a'u teuluoedd:
2
Reuben, Simeon, Lefi a Jwda,
3
Issachar, Sabulon a Benjamin,
4
Dan a Nafftali, Gad ac Asher.
5
Saith deg o feibion ac wyrion i Jacob i gyd (Roedd Joseff eisoes yn yr Aifft).
6
Yna dyma Joseff a'i frodyr a'r genhedlaeth yna i gyd yn marw.
7
Ond roedd eu disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw'n cael eu gweld fel bygythiad. Roedden nhw ym mhobman — yn llenwi'r wlad!
8
Aeth amser hir heibio, a daeth brenin newydd i deyrnasu yn yr Aifft, un oedd yn gwybod dim byd am Joseff.
9
A dyma fe'n dweud wrth ei bobl, “Gwrandwch. Mae yna ormod o Israeliaid yn y wlad yma!
10
Rhaid i ni feddwl beth i'w wneud. Os bydd y niferoedd yn dal i dyfu, a rhyfel yn torri allan, byddan nhw'n helpu'n gelynion i ymladd yn ein herbyn ni. Gallen nhw hyd yn oed ddianc o'r wlad.”
11
Felly dyma'r Eifftiaid yn cam-drin pobl Israel, a'u gorfodi i weithio am ddim iddyn nhw, ac yn gosod meistri gwaith i gadw trefn arnyn nhw. A dyma nhw'n adeiladu Pithom a Rameses yn ganolfannau storfeydd i'r Pharo.
12
Ond er bod yr Eifftiaid yn eu gweithio nhw mor galed, roedd eu niferoedd yn dal i gynyddu a mynd ar wasgar. Felly dechreuodd yr Eifftiaid eu hofni a'u casáu nhw go iawn,
13
a'u cam-drin nhw fwy fyth.
14
Roedd bywyd yn chwerw go iawn iddyn nhw, wrth i'r Eifftiaid wneud iddyn nhw weithio mor galed. Roedden nhw'n gwneud brics a chymysgu morter ac yn slafio oriau hir yn y caeau hefyd.
15
Felly dyma frenin yr Aifft yn siarad â bydwragedd yr Hebreaid, Shiffra a Pwa, a dweud wrthyn nhw,
16
“Pan fyddwch chi'n gofalu am wragedd Hebreig wrth iddyn nhw eni plant, os mai bachgen fydd yn cael ei eni, dw i eisiau i chi ei ladd e'n syth; ond cewch adael i'r merched fyw.”
17
Ond am fod y bydwragedd yn parchu Duw, wnaethon nhw ddim beth roedd brenin yr Aifft wedi ei orchymyn iddyn nhw. Dyma nhw'n cadw'r bechgyn yn fyw.
18
A dyma frenin yr Aifft yn eu galw nhw eto, a gofyn “Beth dych chi'n wneud? Pam dych chi'n gadael i'r bechgyn fyw?”
19
A dyma'r bydwragedd yn ateb, “Dydy'r gwragedd Hebreig ddim yr un fath â gwragedd yr Aifft — maen nhw'n gryfion, ac mae'r plant yn cael eu geni cyn i ni gyrraedd yno!”
20
Felly buodd Duw'n garedig at y bydwragedd. Roedd niferoedd pobl Israel yn dal i dyfu; roedden nhw'n mynd yn gryfach ac yn gryfach.
21
Am fod y bydwragedd wedi parchu Duw, rhoddodd Duw deuluoedd iddyn nhw hefyd.
22
Yna dyma'r Pharo yn rhoi gorchymyn i'w bobl: “Mae pob bachgen sy'n cael ei eni i'r Hebreaid i gael ei daflu i'r Afon Nil, ond cewch adael i'r merched fyw.”
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40