bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 38
Exodus 38
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 39 →
1
Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi'r aberthau. Gwnaeth hi o goed acasia, yn ddau pwynt dau metr sgwâr, ac yn un pwynt tri metr o uchder.
2
Gwnaeth gyrn ar bedair cornel yr allor, yn un darn gyda'r allor ei hun. Yna ei gorchuddio gyda pres.
3
Pres ddefnyddiodd i wneud yr offer i gyd hefyd — y bwcedi lludw, rhawiau, powlenni taenellu, ffyrc, a'r padellau tân.
4
Yna gwnaeth y gratin, sef rhwyll wifrog o bres o dan silff yr allor, hanner ffordd i lawr.
5
A gwnaeth bedair cylch i'w gosod ar bedair cornel y gratin, i roi'r polion trwyddyn nhw.
6
Yna gwnaeth y polion allan o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gyda pres.
7
Yna gwthiodd y polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r allor, i'w chario hi. Roedd yr allor yn wag y tu mewn, wedi ei gwneud gyda planciau o bren.
8
Yna gwnaeth y ddysgl fawr bres a'i stand bres allan o ddrychau y gwragedd oedd yn gwasanaethu wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.
9
Yna gwnaeth yr iard. Roedd yr ochr ddeheuol yn bedwar deg pedwar metr o hyd, a'r llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau.
10
Roedd yna ddau ddeg postyn yn sefyll mewn dau ddeg o socedi pres, a bachau ar ffyn arian i ddal y llenni.
11
A'r un fath ar yr ochr ogleddol.
12
Ar ochr y gorllewin, dau ddeg dau metr o lenni, gyda deg postyn yn sefyll mewn deg o socedi pres, gyda'r bachau a'r ffyn arian.
13
[13-15] Ar y tu blaen, yn wynebu'r dwyrain, dau ddeg dau metr eto — chwe pwynt chwe metr o lenni, gyda tri postyn mewn tair soced bres, bob ochr i'r giât.
16
Roedd y llenni o gwmpas yr iard i gyd wedi eu gwneud o'r lliain main gorau.
17
Y socedi yn bres. Y bachau a'r ffyn yn arian. Top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian, a rhimyn o arian yn rhedeg o gwmpas y polion.
18
Roedd y sgrîn o flaen y fynedfa yn naw metr o hyd — llenni wedi eu gwneud o'r lliain main gorau ac wedi eu brodio gydag edau las, porffor a coch. Fel llenni'r iard ei hun, roedden nhw'n ddau pwynt dau metr o uchder,
19
ac yn cael eu dal ar bedwar polyn mewn pedwar soced bres. Roedd y bachau a'r ffyn yn arian, ac roedd top y polion wedi eu gorchuddio gydag arian.
20
Roedd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas wedi eu gwneud o bres.
21
Dyma restr lawn o'r hyn gafodd ei ddefnyddio i wneud Tabernacl y Dystiolaeth. Moses oedd wedi gorchymyn cofnodi'r cwbl; a'r Lefiaid, dan arweiniad Ithamar, mab Aaron yr offeiriad, wnaeth y gwaith.
22
Gwnaeth Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda, bopeth yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
23
Ac roedd Aholïab fab Achisamach o lwyth Dan yn ei helpu. Roedd Aholïab yn grefftwr, yn ddyluniwr, ac yn brodio lliain main gydag edau las, porffor a coch.
24
Aur: 1,000 cilogram — dyma'r holl aur gafodd ei ddefnyddio i wneud popeth yn y cysegr (Yr aur oedd wedi ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
25
Arian: bron 3,500 cilogram — dyma'r arian gafodd ei gyfrannu gan y bobl.
26
Roedd hyn yn hanner sicl (bron yn chwe gram o arian) gan bawb dros ugain oed gafodd ei gyfrif — sef 603,550 o ddynion.
27
Cafodd 3,300 cilogram o'r arian ei ddefnyddio i wneud y socedi i bolion y cysegr, a'r socedi i'r llen arbennig — cant o socedi yn dri deg tri cilogram yr un.
28
Yna defnyddiodd y gweddill o'r arian i wneud y ffyn a'r bachau i ddal y llenni, ac i orchuddio top y polion.
29
Pres: bron 2,500 cilogram — (sef y pres gafodd ei gyflwyno yn offrwm i'w chwifio o flaen yr ARGLWYDD)
30
Cafodd hwn ei ddefnyddio i wneud socedi i'r fynedfa i Babell Presenoldeb Duw, yr allor bres, y gratin iddi, offer yr allor i gyd,
31
y socedi o gwmpas yr iard, a'r socedi i'r fynedfa i'r iard, a hefyd pegiau y Tabernacl a'r iard o'i chwmpas.
← Chapter 37
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 39 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40