bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 26
Exodus 26
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 27 →
1
“Mae'r Tabernacl ei hun i gael ei wneud o ddeg llen o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
2
Mae pob llen i fod yn un deg dau metr o hyd a dau fetr o led — i gyd yr un faint.
3
Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r pump arall yr un fath.
4
Yna gwneud dolenni o edau las ar hyd ymyl llen olaf pob set —
5
hanner cant o ddolenni ar bob un, fel eu bod gyferbyn a'i gilydd.
6
Wedyn gwneud hanner can bachyn aur i ddal y llenni at ei gilydd, fel bod y cwbl yn un darn.
7
“Yna nesaf gwneud llenni o flew gafr i fod fel pabell dros y Tabernacl — un deg un ohonyn nhw.
8
Mae pob llen i fod yn un deg tri metr o hyd a dau fetr o led — i gyd yr un faint.
9
Mae pump o'r llenni i gael eu gwnïo at ei gilydd, a'r chwech arall i gael eu gwnïo at ei gilydd. Mae'r chweched llen yn yr ail grŵp o lenni, i'w phlygu drosodd i wneud mynedfa ar du blaen y babell.
10
Yna gwneud hanner can dolen ar hyd ymyl llen olaf pob set,
11
a hanner can bachyn pres i fynd trwy'r dolenni i ddal y llenni at ei gilydd, a gwneud y cwbl yn un darn.
12
Mae'r hanner llen sydd dros ben i'w adael yn hongian dros gefn y Tabernacl.
13
Yna ar ddwy ochr y Tabernacl bydd yr hanner metr ychwanegol yn golygu fod y darn sy'n hongian dros yr ymyl yn ei gorchuddio hi i'r llawr.
14
“Yna'n olaf, dau orchudd arall dros y cwbl — un wedi ei wneud o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, a gorchudd allanol o grwyn môr-fuchod.
15
“Mae fframiau'r Tabernacl i'w gwneud allan o goed acasia.
16
Mae pob un i fod yn bedwar metr o hyd, a chwe deg chwech centimetr o led,
17
gyda dau denon ar bob un i'w cysylltu â'i gilydd.
18
Rhaid gwneud dau ddeg ffrâm i ochr ddeheuol y Tabernacl,
19
a pedwar deg soced arian i ddal y fframiau — dwy soced i'r ddau denon ar bob ffrâm.
20
Wedyn dau ddeg ffrâm ar ochr arall y Tabernacl, sef yr ochr ogleddol.
21
A pedwar deg soced iddyn nhw — dwy soced dan bob ffrâm.
22
Yna chwe ffrâm i gefn y Tabernacl, sef y pen gorllewinol,
23
a dau ffrâm ychwanegol i'r corneli yn y cefn.
24
Yn y corneli mae dau ffrâm yn ffitio gyda'i gilydd ar y gwaelod, ac yn cael eu dal gyda'i gilydd gan gylch ar y top. Mae'r fframiau ar y ddwy gornel i fod yr un fath.
25
Mae hynny'n gwneud wyth ffrâm gydag un deg chwech o socedi arian — dwy soced dan bob ffrâm.
26
[26-27] “Yna rwyt i wneud croesfarrau o goed acasia — pump i'r fframiau bob ochr i'r Tabernacl, a pump i fframiau cefn y Tabernacl sy'n wynebu'r gorllewin.
28
Mae'r croesfar ar ganol y fframiau i ymestyn o un pen i'r llall.
29
Mae'r fframiau a'r croesfarrau i gael eu gorchuddio gydag aur, ac mae'r cylchoedd sy'n dal y croesfarrau i gael eu gwneud o aur hefyd.
30
“Pan fyddi'n codi'r Tabernacl, rhaid dilyn yr union fanylion gafodd eu rhoi i ti ar y mynydd.
31
“Rwyt i wneud llen arbennig o'r lliain main gorau, gyda lluniau o geriwbiaid wedi eu dylunio'n gelfydd a'u brodio gydag edau las, porffor a coch.
32
Mae'r llen yma i hongian ar bedwar polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur a'u gosod mewn socedi arian.
33
Mae'r llen i hongian ar fachau aur, ac wedyn mae Arch y dystiolaeth i'w gosod tu ôl i'r llen. Bydd y llen yn gwahanu'r Lle Sanctaidd oddi wrth y Lle Mwyaf Sanctaidd.
34
Yna mae'r caead i gael ei osod ar Arch y dystiolaeth yn y Lle Mwyaf Sanctaidd.
35
Wedyn mae'r bwrdd a'r menora (sef y stand i'r lampau) i gael eu gosod gyferbyn â'i gilydd tu allan i'r llen — y bwrdd ar ochr y gogledd, a'r menora ar ochr y de.
36
Wedyn rhaid gwneud sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell. Bydd hon eto wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei brodio gydag edau las, porffor a coch.
37
Mae i hongian ar bump polyn o goed acasia, wedi eu gorchuddio gydag aur. Mae'r bachau i'w gwneud o aur, ac mae pum soced bres i gael eu gwneud i ddal y polion.
← Chapter 25
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 27 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40