bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 2
Exodus 2
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 3 →
1
Bryd hynny roedd dyn o deulu Lefi wedi priodi gwraig ifanc oedd hefyd yn un o ddisgynyddion Lefi.
2
A dyma'r wraig yn beichiogi, ac yn cael mab. Pan welodd hi'r babi bach hyfryd, dyma hi'n ei guddio am dri mis.
3
Ond ar ôl hynny roedd hi'n amhosib ei guddio. Felly dyma hi'n cymryd basged frwyn, a'i selio gyda tar. Yna rhoi'r babi yn y fasged, a'i osod yng nghanol y brwyn wrth lan yr afon Nil.
4
A dyma chwaer y plentyn yn mynd i sefyll heb fod yn rhy bell, i weld beth fyddai'n digwydd iddo.
5
Daeth merch y Pharo i lawr at yr afon i ymdrochi, tra roedd ei morynion yn cerdded ar lan yr afon. A dyma hi'n sylwi ar y fasged yng nghanol y brwyn, ac anfon caethferch i'w nôl.
6
Agorodd y fasged, a gweld y babi bach — bachgen, ac roedd yn crïo. Roedd hi'n teimlo trueni drosto. “Un o blant yr Hebreaid ydy hwn,” meddai.
7
Yna dyma chwaer y plentyn yn mynd at ferch y Pharo, a gofyn, “Ga i fynd i nôl un o'r gwragedd Hebreig i fagu'r plentyn i chi?”
8
A dyma ferch y Pharo yn dweud, “Ie, gwna hynny!” Felly dyma hi'n mynd adre i nôl mam y babi.
9
A dyma ferch y Pharo yn dweud wrthi, “Dw i eisiau i ti gymryd y plentyn yma, a'i fagu ar y fron i mi. Gwna i dalu cyflog i ti am wneud hynny.” Felly aeth y wraig a'r plentyn adre i'w fagu.
10
Yna, pan oedd y plentyn yn ddigon hen, dyma hi'n mynd ag e at ferch y Pharo, a dyma hithau'n ei fabwysiadu yn fab iddi ei hun. Rhoddodd yr enw Moses iddo — “Am fy mod wedi ei dynnu allan o'r dŵr,” meddai.
11
Flynyddoedd wedyn, pan oedd Moses wedi tyfu'n oedolyn, aeth allan at ei bobl, a gweld fel roedden nhw'n cael eu cam-drin. Gwelodd Eifftiwr yn curo Hebrëwr — un o'i bobl ei hun!
12
Ar ôl edrych o'i gwmpas i wneud yn siŵr fod neb yn ei weld, dyma fe'n taro'r Eifftiwr a'i ladd, a claddu ei gorff yn y tywod.
13
Pan aeth allan y diwrnod wedyn, gwelodd ddau Hebrëwr yn dechrau ymladd gyda'i gilydd. A dyma Moses yn dweud wrth yr un oedd ar fai, “Pam wyt ti'n ymosod ar dy ffrind?”
14
A dyma'r dyn yn ei ateb, “Pwy sydd wedi rhoi'r hawl i ti ein rheoli ni a'n barnu ni? Wyt ti am fy lladd i fel gwnest ti ladd yr Eifftiwr yna?” Roedd Moses wedi dychryn, a meddyliodd, “Mae'n rhaid bod pobl yn gwybod beth wnes i.”
15
A dyma'r Pharo yn dod i glywed am y peth, ac roedd am ladd Moses. Felly dyma Moses yn dianc oddi wrtho a mynd i wlad Midian. Pan gyrhaeddodd yno, eisteddodd wrth ymyl rhyw ffynnon.
16
Roedd gan offeiriad Midian saith merch, a dyma nhw'n dod at y ffynnon, a dechrau codi dŵr i'r cafnau er mwyn i ddefaid a geifr eu tad gael yfed.
17
Ond dyma grŵp o fugeiliaid yn dod a'u gyrru nhw i ffwrdd. Dyma Moses yn achub y merched, ac yn codi dŵr i'w defaid nhw.
18
Pan aeth y merched adre at eu tad, Reuel, dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Pam ydych chi wedi dod adre mor gynnar heddiw?”
19
A dyma nhw'n dweud wrtho, “Daeth rhyw Eifftiwr a'n hachub ni rhag y bugeiliaid, ac yna codi dŵr i'w roi i'r praidd.”
20
A dyma fe'n gofyn i'w ferched, “Ble mae e? Pam yn y byd wnaethoch chi adael y dyn allan yna? Ewch i'w nôl, a gofyn iddo ddod i gael pryd o fwyd gyda ni.”
21
Cytunodd Moses i aros gyda nhw, a dyma Reuel yn rhoi ei ferch Seffora yn wraig iddo.
22
Wedyn dyma nhw'n cael mab, a dyma Moses yn rhoi'r enw Gershom iddo — “Mewnfudwr yn byw mewn gwlad estron ydw i,” meddai.
23
Aeth blynyddoedd heibio, a dyma frenin yr Aifft yn marw. Roedd pobl Israel yn griddfan am eu bod yn dioddef fel caethweision. Roedden nhw'n gweiddi'n daer am help, a dyma'u cri yn cyrraedd Duw.
24
Clywodd Duw nhw'n griddfan, ac roedd yn cofio ei ymrwymiad i Abraham, Isaac a Jacob.
25
Gwelodd Duw bobl Israel, ac roedd yn teimlo i'r byw drostyn nhw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40