bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 25
Exodus 25
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 26 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2
“Dywed wrth bobl Israel am gasglu rhoddion i mi gan bawb sy'n awyddus i gyfrannu.
3
Dyma beth allan nhw ei gyfrannu: aur, arian, pres,
4
edau las, porffor, a coch, lliain main drud, blew gafr,
5
crwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, crwyn môr-fuchod, coed acasia,
6
olew i'r lampau, perlysiau i wneud yr olew eneinio a'r arogldarth persawrus,
7
onics a gemau eraill i'w gosod ar yr effod a'r boced fydd yn mynd dros y frest.
8
Dw i eisiau iddyn nhw godi lle sbesial i mi gael byw yn eu canol nhw.
9
Dw i eisiau i'r Tabernacl, a popeth fydd yn mynd i mewn ynddo, gael eu gwneud yn union fel dw i'n dangos i ti.
10
“Maen nhw i wneud Arch, sef cist o goed acasia — 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.
11
Yna ei gorchuddio gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
12
Yna gwneud pedair cylch aur, a'i gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr.
13
A dau bolyn o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur.
14
Mae'r polion i ffitio drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, ac i'w defnyddio i'w chario hi.
15
Mae'r polion yma i aros yn eu lle yn y cylchoedd bob amser — rhaid peidio eu tynnu nhw allan.
16
Wedyn mae Llechi'r Dystiolaeth dw i'n eu rhoi i ti, i'w gosod y tu mewn i'r Arch.
17
“Yna gwneud caead o aur pur i'r Arch — 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.
18
[18-19] Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) — un bob pen i'r caead, yn un darn gyda'r caead ei hun.
20
Mae'r ceriwbiaid i fod yn wynebu ei gilydd, yn edrych i lawr ar y caead, ac yn estyn eu hadenydd dros yr Arch.
21
Mae'r caead i'w osod ar yr arch, a Llechi'r Dystiolaeth i'w gosod y tu mewn iddi.
22
Dyma ble bydda i'n dy gyfarfod di. Rhwng y ddau geriwb sydd uwch ben caead yr Arch, bydda i'n siarad â ti, ac yn dweud beth dw i eisiau i bobl Israel ei wneud.
23
“Rwyt i wneud bwrdd o goed acasia — 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.
24
Mae'r bwrdd i gael ei orchuddio gyda haen o aur pur, a border aur i'w osod o'i gwmpas i'w addurno.
25
Ac mae croeslath 75 milimetr o drwch i fod o'i gwmpas — hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border.
26
Yna gwneud pedair cylch aur, a'u gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau
27
wrth ymyl y croeslath. Mae'r cylchoedd i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
28
Mae'r polion eu hunain i gael eu gwneud o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur.
29
Hefyd platiau, pedyll, jygiau a powlenni o aur pur, i dywallt yr offrymau o ddiod.
30
Mae'r bara cysegredig i gael ei osod o'm blaen i ar y bwrdd yma bob amser.
31
“Yna gwneud y menora (sef stand i ddal y lampau) allan o aur pur — gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn — y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.
32
Mae chwe cangen i ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.
33
Mae tair cwpan siâp blodyn almon i fod ar bob cangen — pob blodyn gyda calycs a petalau.
34
Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.
35
Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.
36
Mae'r cwbl i'w wneud o un darn o aur pur wedi ei guro — gwaith morthwyl.
37
Yna rhaid gwneud saith lamp, a'i gosod nhw arni fel eu bod yn goleuo o'i blaen hi.
38
Mae'r gefeiliau a'r padellau hefyd i'w gwneud o aur pur.
39
Dylid defnyddio 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer i gyd.
40
Gwna'n siŵr dy fod yn eu gwneud nhw yn union fel yn y cynllun gafodd ei ddangos i ti ar y mynydd.
← Chapter 24
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 26 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40