bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 39
Exodus 39
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 40 →
1
Dyma nhw'n gwneud gwisgoedd i'r rhai fyddai'n gwasanaethu yn y cysegr — gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd gydag edau las, porffor a coch. Gwisgoedd cysegredig i Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
2
Roedd yr effod wedi ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag aur, glas, porffor a coch.
3
Dyma'r crefftwyr yn gwneud dalen denau, denau o aur a'i dorri yn stribedi main a'i wnïo i'r patrwm gyda'r edau las, porffor a coch; y cwbl wedi ei ddylunio'n gelfydd.
4
Dyma nhw'n gwneud dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd.
5
Ac roedd strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod. Roedd wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6
Yna dyma nhw'n gosod y cerrig onics mewn gwaith ffiligri o aur, a crafu enwau meibion Israel arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
7
Yna eu rhoi nhw ar strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
8
Wedyn dyma nhw'n gwneud y darn sy'n mynd dros y frest, wedi ei gynllunio'n gelfydd gan artist. Ei wneud yr un fath â'r effod — allan o liain main wedi ei frodio gydag aur, ac edau las, porffor a coch.
9
Roedd wedi ei blygu drosodd i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
10
Yna gosod pedair rhes o gerrig arno: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
11
yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;
12
y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;
13
a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis — pob un wedi ei osod mewn gwaith ffiligri o aur.
14
Roedd pob carreg yn cynrychioli un o feibion Israel — un deg dau enw wedi eu crafu arnyn nhw, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
15
A dyma nhw'n gwneud cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod ar y darn sy'n mynd dros y frest.
16
Yna gwneud dwy ffiligri o aur a dwy ddolen aur, a cysylltu'r dolenni i ddwy gornel uchaf y darn sy'n mynd dros y frest.
17
Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,
18
a chysylltu pen arall y cadwyni i'r ddwy ffiligri, a rhoi'r rheiny ar strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.
19
Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.
20
Yna gwneud dwy ddolen aur arall eto, a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod.
21
Wedyn clymu dolenni'r darn dros y frest i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd. Roedd hyn i gyd yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
22
Gwnaeth gwehydd y fantell sy'n mynd gyda'r effod i gyd yn las.
23
Roedd lle i'r pen fynd trwyddo yn y canol, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.
24
Wedyn roedd pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch, a lliain main.
25
Ac yna gwneud clychau o aur pur a'i gosod nhw rhwng y pomgranadau ar ymylon y fantell —
26
clychau a ffrwythau bob yn ail o gwmpas y fantell fyddai'n cael ei gwisgo i wasanaethu, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27
Wedyn dyma nhw'n gwneud crysau o liain main i Aaron a'i feibion.
28
Hefyd twrban a penwisgoedd o liain main, a dillad isaf o'r lliain main gorau.
29
Ac roedd y sash i'w wneud o'r lliain main gorau hefyd, wedi ei frodio gydag edau las, porffor a coch, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30
Wedyn gwneud medaliwn o aur pur, y symbol ei fod wedi ei gysegru i waith Duw, a crafu arno (fel ar sêl) y geiriau: ‛Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD‛
31
Wedyn ei glymu ar du blaen y twrban gydag edau las, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
32
Felly roedd yr holl waith ar y Tabernacl (sef Pabell Presenoldeb Duw) wedi ei orffen. Roedd pobl Israel wedi gwneud popeth yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
33
Felly dyma nhw'n dod â'r Tabernacl at Moses, sef y babell ei hun a'r darnau eraill i gyd: y bachau, y fframiau, y trawstiau, y polion a'r socedi.
34
Y gorchudd o grwyn hyrddod wedi eu llifo'n goch, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, a llen y sgrîn.
35
Yna Arch y dystiolaeth, y polion i'w chario, a'i chaead (sef caead y cymodi),
36
y bwrdd a'i holl gelfi, a'r bara cysegredig.
37
Y menora gyda'i lampau mewn trefn, yr offer oedd gyda hi, a'r olew i'w goleuo.
38
Yr Allor Aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r babell.
39
Yr Allor Bres a'i grât o bres, y polion i'w chario, a'i hoffer i gyd. Y ddisgyl fawr a'i stand.
40
Y llenni ar gyfer y wal o gwmpas yr iard, y polion i'w dal a'r socedi, y sgrîn ar gyfer y fynedfa i'r iard, y rhaffau a'r pegiau, a'r holl offer oedd ei angen ar gyfer y gwaith yn y Tabernacl, sef Pabell Presenoldeb Duw.
41
Hefyd gwisgoedd y rhai fyddai'n gwasanaethu yn yr addoliad yn y lle sanctaidd (i gyd wedi eu brodio'n hardd), a gwisgoedd cysegredig Aaron yr offeiriad, a'i feibion fyddai hefyd yn gwasanaethu fel offeiriaid.
42
Roedd pobl Israel wedi gwneud y gwaith i gyd yn union fel dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
43
Yna dyma Moses yn archwilio'r cwbl, ac yn wir, roedd y cwbl wedi ei wneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud. A dyma Moses yn eu bendithio nhw.
← Chapter 38
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 40 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40