bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 15
Exodus 15
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 16 →
1
Dyma Moses a pobl Israel yn canu'r gân yma i'r ARGLWYDD: “Dw i am ganu i'r ARGLWYDD a dathlu ei fuddugoliaeth: Mae e wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr!
2
Yr ARGLWYDD sy'n rhoi nerth a chân i mi! Fe sydd wedi fy achub i. Dyma'r Duw dw i'n ei addoli — Duw fy nhad, a dw i'n mynd i'w ganmol!
3
Yr ARGLWYDD ydy ei enw e. Mae'r ARGLWYDD yn rhyfelwr.
4
Mae wedi taflu cerbydau y Pharo a'i fyddin i gyd i'r môr! Cafodd eu swyddogion gorau eu boddi yn y Môr Coch.
5
Daeth y dŵr dwfn drostyn nhw, a dyma nhw'n suddo i'r gwaelod fel carreg.
6
Mae dy law gref yn rhyfeddol, ARGLWYDD; dy law gref di wnaeth ddryllio'r gelyn.
7
Am dy fod mor aruthrol fawr, rwyt ti'n bwrw i lawr y rhai sy'n codi yn dy erbyn — Ti'n dangos dy fod yn ddig, ac maen nhw'n cael eu difa fel bonion gwellt.
8
Wrth i ti chwythu dyma'r dŵr yn codi'n bentwr, y llif yn sefyll fel argae, a'r dŵr dwfn wedi caledu yng nghanol y môr.
9
Dyma'r gelyn yn dweud, ‘Ar eu holau nhw! Dalia i nhw, a rhannu'r ysbail! Dw i'n mynd i gael amser da! Fydd neb ar ôl i'r cleddyf ei daro — dw i'n mynd i'w dinistrio nhw'n llwyr!’
10
Ond dyma ti'n chwythu, a dyma'r môr yn llifo drostyn nhw! Dyma nhw'n suddo fel plwm yn y tonnau gwyllt!
11
Pa un o'r duwiau sy'n debyg i ti, ARGLWYDD? Does neb tebyg i ti — mor wych, ac mor sanctaidd, yn haeddu dy barchu a dy foli; ti'n gwneud gwyrthiau rhyfeddol!
12
Dyma ti'n codi dy law gref a dyma'r ddaear yn llyncu'r gelyn!
13
Yn dy gariad byddi'n arwain y bobl rwyt wedi eu rhyddhau; byddi'n eu tywys yn dy nerth i'r lle cysegredig lle rwyt yn byw.
14
Bydd y bobloedd yn clywed ac yn crynu — bydd pobl Philistia yn poeni,
15
ac arweinwyr Edom wedi brawychu. Bydd dynion cryf Moab yn crynu, a pobl Canaan yn poeni.
16
Bydd ofn a braw yn dod drostyn nhw — mae dy gryfder di yn eu gwneud yn fud fel carreg. Fyddan nhw'n gwneud dim nes bydd dy bobl wedi pasio heibio, ARGLWYDD; y bobl wnest ti eu prynu wedi pasio heibio.
17
Ond byddi'n mynd â nhw i mewn ac yn eu plannu ar dy fynydd dy hun — ble rwyt ti wedi dewis byw, ARGLWYDD; y cysegr rwyt ti wedi ei sefydlu.
18
Yr ARGLWYDD sy'n teyrnasu am byth bythoedd!
19
Pan aeth ceffylau y Pharo, a'i gerbydau a'i filwyr i'r môr, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud i ddŵr y môr lifo'n ôl drostyn nhw. Ond roedd pobl Israel wedi cerdded ar dir sych drwy ganol y môr.”
20
Yna dyma Miriam y broffwydes, chwaer Aaron, yn gafael mewn drwm llaw, a dyma'r merched i gyd yn codi drymiau a mynd ar ei hôl gan ddawnsio.
21
A dyma Miriam yn canu'r gytgan: “Canwch i'r ARGLWYDD i ddathlu ei fuddugoliaeth! Mae e wedi taflu'r ceffylau a'u marchogion i'r môr!”
22
Dyma Moses yn cael pobl Israel i symud ymlaen oddi wrth y Môr Coch. Dyma nhw'n mynd allan i Anialwch Shwr. Buon nhw'n cerdded yn yr anialwch am dri diwrnod heb ddod o hyd i ddŵr.
23
Yna dyma nhw'n cyrraedd Mara, ond roedden nhw'n methu yfed y dŵr yno am ei fod mor chwerw. (Dyna pam roedd yn cael ei alw yn Mara — sef “Chwerw.”)
24
Dyma'r bobl yn dechrau troi yn erbyn Moses. “Beth ydyn ni'n mynd i'w yfed?” medden nhw.
25
Dyma Moses yn gweddïo'n daer am help, a dyma'r ARGLWYDD yn ei arwain at ddarn o bren. Ar ôl i Moses ei daflu i'r dŵr roedd y dŵr yn iawn i'w yfed. Yn Mara dyma'r ARGLWYDD yn rhoi rheol iddyn nhw, er mwyn profi pa mor ffyddlon oedden nhw:
26
“Os byddwch chi'n ufudd i'r ARGLWYDD eich Duw, a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg e, gwrando ar beth mae'n ei ddweud a chadw at ei reolau, fydd dim rhaid i chi ddiodde'r afiechydon wnes i daro'r Eifftiaid gyda nhw. Fi ydy'r ARGLWYDD sy'n eich iacháu chi.”
27
Yna dyma nhw'n cyrraedd Elim, lle roedd un deg dwy o ffynhonnau a saith deg o goed palmwydd. A dyma nhw'n gwersylla yno wrth ymyl y ffynhonnau.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40