bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 28
Exodus 28
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 29 →
1
“Mae dy frawd Aaron a'i feibion, Nadab, Abihw, Eleasar ac Ithamar, i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
2
Rhaid i ti wneud gwisgoedd cysegredig i dy frawd Aaron — gwisgoedd hardd fydd yn dangos urddas y gwaith fydd yn ei wneud.
3
Rwyt i siarad â'r crefftwyr gorau, sydd wedi eu donio gen i, iddyn nhw wneud urddwisg i Aaron, fydd yn dangos ei fod wedi ei ddewis i wasanaethu fel offeiriad i mi.
4
“Dyma'r gwahanol rannau o'r urddwisg sydd i gael eu gwneud: Y boced sydd i fynd dros y frest, effod, mantell, crys patrymog, twrban a sash. Mae'r dillad cysegredig yma i gael eu gwneud i dy frawd Aaron a'i feibion, fydd yn gwasanaethu fel offeiriaid i mi.
5
Mae'r cwbl i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
6
Mae'r effod i gael ei gwneud o'r lliain main gorau, wedi ei ddylunio'n gelfydd a'i frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
7
Mae dau strap i fynd dros yr ysgwyddau, wedi eu cysylltu i'r corneli, i'w ddal gyda'i gilydd.
8
Mae'r strap cywrain wedi ei blethu i fod yn un darn gyda'r effod, wedi ei wneud o'r lliain main gorau, ac wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
9
Yna rwyt i gymryd dwy garreg onics a chrafu enwau meibion Israel arnyn nhw,
10
yn y drefn y cawson nhw eu geni — chwech ar un garreg a chwech ar y llall.
11
Mae crefftwr profiadol i grafu'r enwau ar y cerrig, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud, ac yna eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.
12
Yna cysylltu'r ddwy garreg i strapiau ysgwydd yr effod, fel cerrig coffa i bobl Israel. Bydd Aaron yn gwisgo'r enwau ar ei ysgwyddau o flaen yr ARGLWYDD.
13
Mae'r ffiligri i gael ei wneud o aur,
14
gyda dwy gadwyn o aur pur wedi ei blethu yn hongian o un i'r llall.
15
“Y darn sy'n mynd dros y frest fydd yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Mae i gael ei gynllunio'n gelfydd gan artist, a'i wneud yr un fath â'r effod — allan o liain main wedi ei frodio gydag edau aur, glas, porffor a coch.
16
Mae i'w blygu yn ei hanner i wneud poced 22 centimetr sgwâr.
17
Wedyn mae pedair rhes o gerrig i'w gosod ynddo: y rhes gyntaf yn rhuddem, topas a beryl;
18
yr ail res yn lasfaen, saffir ac emrallt;
19
y drydedd res yn iasinth, calcedon ac amethyst;
20
a'r bedwaredd yn saffir melyn, onics a iasbis. Maen nhw i gyd i gael eu gosod mewn gwaith ffiligri o aur.
21
Mae pob carreg yn cynrychioli un o lwythau Israel, a bydd enw'r llwyth wedi ei grafu ar y garreg, yr un fath ag mae sêl yn cael ei wneud.
22
Yna mae cadwynau o aur pur wedi ei blethu i'w gosod arno.
23
Yna gwneud dwy ddolen aur, a'i cysylltu nhw i'r corneli uchaf.
24
Wedyn cysylltu'r ddwy gadwyn aur i'r dolenni hynny,
25
a chysylltu pen arall y cadwyni i strapiau ysgwydd yr effod, ar y tu blaen.
26
Wedyn gwneud dwy ddolen aur arall a'i cysylltu nhw i gorneli isaf y darn sy'n mynd dros y frest, ar yr ymyl fewnol agosaf at yr effod.
27
Yna gwneud dwy ddolen aur arall a'u rhoi nhw ar waelod strapiau ysgwydd yr effod wrth ymyl y gwnïad sydd uwch ben strap yr effod.
28
Mae dolenni'r darn dros y frest i gael eu clymu i ddolenni'r effod gydag edau las, i'w gadw uwch ben strap yr effod, yn lle ei fod yn hongian yn rhydd.
29
Felly pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r lle sanctaidd bydd yn cario enwau llwythau Israel ar ei galon. Byddan nhw ar y darn dros y frest, fel cerrig coffa bob amser i bobl Israel.
30
Yna mae'r Wrim a'r Thwmim i'w rhoi tu mewn i'r darn dros y frest sy'n cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau. Byddan nhw ar galon Aaron pan fydd e'n mynd i mewn at yr ARGLWYDD. Mae Aaron i gario'r modd o wneud penderfyniadau dros bobl Israel ar ei galon bob amser pan fydd e'n mynd o flaen yr ARGLWYDD.
31
“Mae'r fantell sy'n mynd gyda'r effod i fod yn las.
32
Mae lle i'r pen fynd trwyddo ar y top, gyda hem o'i gwmpas, wedi ei bwytho fel coler i'w atal rhag rhwygo.
33
Wedyn gosod pomgranadau bach o gwmpas ymylon y fantell, wedi eu gwneud o edau las, porffor a coch. A gosod clychau aur rhyngddyn nhw —
34
y clychau a'r ffrwythau bob yn ail.
35
Mae Aaron i wisgo'r fantell yma pan fydd e'n gwasanaethu, a bydd sŵn y clychau i'w clywed wrth iddo fynd i mewn ac allan o'r Lle Sanctaidd o flaen yr ARGLWYDD, rhag iddo farw.
36
“Yna gwneud medaliwn o aur pur, a crafu arno y geiriau: ‘Wedi ei gysegru i'r ARGLWYDD’
37
Mae i gael ei glymu gydag edau las ar du blaen y twrban,
38
ar dalcen Aaron. Bydd Aaron yn cymryd y cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad sy'n cael ei wneud wrth gyflwyno'r offrymau sanctaidd mae pobl Israel wedi eu neilltuo i Dduw. Rhaid iddo wisgo'r medaliwn ar ei dalcen bob amser fel bod offrymau'r bobl yn dderbyniol.
39
“Mae'r crys patrymog a'r twrban i gael eu gwneud o'r lliain main gorau, gyda'r sash wedi ei frodio.
40
“Yna i feibion Aaron rhaid gwneud crysau, sashiau, a penwisgoedd. Gwisgoedd hardd fydd yn dangos rhywbeth o urddas y gwaith fyddan nhw'n ei wneud.
41
“Yna byddi'n arwisgo dy frawd Aaron a'i feibion, a'u heneinio, ordeinio a'u cysegru nhw i wasanaethu fel offeiriaid i mi.
42
“Rhaid gwneud dillad isaf o liain iddyn nhw, i guddio eu cyrff noeth. Mae'r rhain i'w gwisgo o'r canol at y pen-glin.
43
Rhaid i Aaron a'i feibion wisgo'r rhain pan fyddan nhw'n mynd i mewn i Babell Presenoldeb Duw, neu i weinyddu wrth yr allor yn y Lle Sanctaidd, rhag iddyn nhw bechu a marw. Dyma fydd y drefn bob amser, i Aaron a'i ddisgynyddion ar ei ôl.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40