bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 20
Exodus 20
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 21 →
1
A dyma Duw yn dweud fel yma:
2
“Fi ydy'r ARGLWYDD, eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision.
3
Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.
4
Paid cerfio eilun i'w addoli — dim byd sy'n edrych fel unrhyw aderyn, anifail na physgodyn.
5
Paid plygu i lawr a'u haddoli nhw. Dw i, yr ARGLWYDD dy Dduw di, yn Dduw eiddigeddus. Dw i'n cosbi pechodau'r rhieni sy'n fy nghasáu i, ac mae'r canlyniadau yn gadael eu hôl ar y plant am dair i bedair cenhedlaeth.
6
Ond dw i'n dangos cariad di-droi-nôl am fil o genedlaethau at y rhai sy'n fy ngharu i ac yn gwneud beth dw i'n ddweud.
7
Paid camddefnyddio enw'r ARGLWYDD dy Dduw. Fydda i ddim yn gadael i rywun sy'n camddefnyddio fy enw ddianc rhag cael ei gosbi.
8
Cofia gadw'r dydd Saboth yn sbesial. Mae'n ddiwrnod cysegredig, gwahanol i'r lleill.
9
Gelli weithio ar y chwe diwrnod arall, a gwneud popeth sydd angen ei wneud.
10
Mae'r seithfed diwrnod i'w gadw yn Saboth i'r ARGLWYDD. Does neb i fod i weithio ar y diwrnod yma — ti na dy feibion a dy ferched, dy weision na dy forynion chwaith; dim hyd yn oed dy anifeiliaid nag unrhyw fewnfudwr sy'n aros gyda ti.
11
Mewn chwe diwrnod roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd, y ddaear, y môr a popeth sydd ynddyn nhw; wedyn dyma fe'n gorffwys ar y seithfed diwrnod. Dyna pam wnaeth Duw fendithio'r dydd Saboth, a'i osod ar wahân, yn ddiwrnod wedi ei gysegru.
12
Rhaid i ti barchu dy dad a dy fam, a byddi'n byw yn hir yn y wlad mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei rhoi i ti.
13
Paid llofruddio.
14
Paid godinebu.
15
Paid dwyn.
16
Paid rhoi tystiolaeth ffals yn erbyn rhywun.
17
Paid chwennych tŷ rhywun arall. Paid chwennych ei wraig, na'i was, na'i forwyn, na'i darw, na'i asyn, na dim byd sydd gan rywun arall.”
18
Roedd y bobl wedi dychryn o achos y mellt a'r taranau, sŵn y corn hwrdd, a'r mynydd yn mygu. Roedden nhw'n crynu mewn ofn, ac eisiau cadw ddigon pell i ffwrdd.
19
Dyma nhw'n dweud wrth Moses, “Siarad di gyda ni, a gwnawn ni wrando. Paid gadael i Dduw siarad â ni, neu byddwn ni'n marw.”
20
Dyma Moses yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Mae Duw yn eich profi chi, ac eisiau i chi ei barchu e, i chi stopio pechu.”
21
Felly dyma'r bobl yn cadw ddigon pell i ffwrdd, tra'r aeth Moses at y cwmwl trwchus lle roedd Duw.
22
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dywed fel hyn wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi gweld sut dw i wedi siarad â chi o'r nefoedd.
23
Rhaid i chi beidio gwneud duwiau eraill o arian ac aur i chi'ch hunain.
24
Codwch allor o bridd i mi, ac aberthu defaid, geifr a gwartheg arni — yn offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Ble bynnag fydda i'n cael fy anrhydeddu, bydda i'n dod atoch chi ac yn eich bendithio chi.
25
Os codwch allor o gerrig, rhaid iddyn nhw beidio bod yn gerrig sydd wedi eu naddu. Os bydd cŷn wedi ei defnyddio arni, bydd yr allor wedi ei halogi.
26
A peidiwch dringo grisiau i fynd at fy allor, rhag i'ch rhannau preifat gael eu gweld.’”
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40