bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 19
Exodus 19
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 20 →
1
Ddau fis union ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft dyma bobl Israel yn cyrraedd Anialwch Sinai.
2
Roedden nhw wedi teithio o Reffidim i Anialwch Sinai, a gwersylla yno wrth droed y mynydd.
3
Yna dyma Moses yn dringo i fyny'r mynydd i gyfarfod gyda Duw, a dyma'r ARGLWYDD yn galw arno o'r mynydd, “Dywed wrth ddisgynyddion Jacob, sef pobl Israel:
4
‘Dych chi wedi gweld beth wnes i i'r Eifftiaid. Dw i wedi eich cario chi ar adenydd eryr a dod â chi yma.
5
Nawr, os gwnewch chi wrando arna i a cadw amodau'r ymrwymiad dw i'n ei wneud gyda chi, byddwch chi'n drysor sbesial i mi o blith holl wledydd y byd. Fi sydd piau'r cwbl,
6
ond byddwch chi'n offeiriaid yn gwasanaethu'r Brenin, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyna'r neges rwyt i i'w rhoi i bobl Israel.”
7
Felly dyma Moses yn mynd yn ôl ac yn galw arweinwyr Israel at ei gilydd, a rhannu gyda nhw beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud.
8
Roedd ymateb y bobl yn unfrydol: “Byddwn ni'n gwneud popeth mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud.” Felly dyma Moses yn mynd â'u hateb yn ôl i'r ARGLWYDD.
9
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dw i'n mynd i ddod atat ti mewn cwmwl trwchus, er mwyn i'r bobl glywed pan dw i'n siarad gyda ti. Byddan nhw'n dy drystio di wedyn.” Dyma Moses yn dweud wrth yr ARGLWYDD beth ddwedodd y bobl.
10
Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i baratoi y bobl. Heddiw ac yfory dw i eisiau i ti eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad.
11
Gwna'n siŵr eu bod nhw'n barod ar gyfer y diwrnod wedyn. Dyna pryd fydd y bobl i gyd yn fy ngweld i, yr ARGLWYDD, yn dod i lawr ar Fynydd Sinai.
12
Rhaid i ti farcio ffin o gwmpas y mynydd, a dweud wrth y bobl, ‘Gwnewch yn siŵr eich bod chi ddim yn dringo na hyd yn oed yn cyffwrdd ymyl y mynydd. Os ydy unrhyw un yn ei gyffwrdd, y gosb ydy marwolaeth.
13
A does neb i gyffwrdd y person neu'r anifail sy'n gwneud hynny chwaith, rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato neu ei saethu gyda bwa saeth. Dydy e ddim i gael byw.’ Dim ond wedi i'r corn hwrdd seinio nodyn hir y cân nhw ddringo'r mynydd.”
14
Felly dyma Moses yn mynd yn ôl i lawr at y bobl. Yna eu cysegru nhw a gwneud iddyn nhw olchi eu dillad,
15
Dwedodd wrthyn nhw, “Byddwch barod ar gyfer y diwrnod ar ôl yfory. Peidiwch cael rhyw.”
16
Dau ddiwrnod wedyn, yn y bore, roedd yna fellt a tharanau, a daeth cwmwl trwchus i lawr ar y mynydd. Ac roedd sŵn nodyn hir yn cael ei seinio ar y corn hwrdd. Roedd y bobl i gyd yn crynu mewn ofn.
17
Dyma Moses yn arwain y bobl allan o'r gwersyll i gyfarfod Duw, a dyma nhw'n sefyll wrth droed y mynydd.
18
Roedd mwg yn gorchuddio Mynydd Sinai, am fod yr ARGLWYDD wedi dod i lawr arno mewn tân. Roedd y mwg yn codi ohono fel mwg o ffwrnais fawr, ac roedd y mynydd yn crynu trwyddo.
19
Roedd sŵn y corn hwrdd yn uwch ac yn uwch drwy'r adeg. Roedd Moses yn siarad, a llais Duw yn ei ateb yn glir.
20
Daeth yr ARGLWYDD i lawr ar gopa mynydd Sinai. Galwodd ar Moses i fynd i fyny ato, a dyma Moses yn gwneud hynny.
21
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos i lawr a rhybuddio'r bobl i beidio croesi'r ffin i edrych ar yr ARGLWYDD, neu bydd lot fawr ohonyn nhw'n marw.
22
Rhaid i'r offeiriaid, sy'n mynd at yr ARGLWYDD yn rheolaidd, gysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro nhw'n sydyn.”
23
Atebodd Moses, “Dydy'r bobl ddim yn gallu dringo Mynydd Sinai, am dy fod ti dy hun wedi'n rhybuddio ni, ‘Marciwch ffin o gwmpas y mynydd, i'w gadw ar wahân.’”
24
Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos di i lawr, a tyrd yn ôl gydag Aaron. Ond paid gadael i'r offeiriaid na'r bobl groesi'r ffin a dod at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro nhw'n sydyn.”
25
Felly dyma Moses yn mynd i lawr a dweud wrth y bobl.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40