bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 31
Exodus 31
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 32 →
1
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2
“Dw i wedi dewis Betsalel, mab Wri ac ŵyr i Hur, o lwyth Jwda.
3
Dw i wedi ei lenwi ag Ysbryd Duw, i roi dawn, deall a gallu iddo, a'i wneud yn feistr ym mhob crefft —
4
i wneud pethau hardd allan o aur, arian a phres;
5
i dorri a gosod gemwaith, i gerfio coed a pob math o waith crefft arall.
6
A dw i am i Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan, ei helpu. Dw i hefyd wedi rhoi doniau i'r crefftwyr gorau eraill, iddyn nhw wneud yr holl bethau dw i wedi eu disgrifio i ti:
7
Pabell Presenoldeb Duw, Arch y dystiolaeth, y caead sydd ar yr Arch, a'r holl bethau eraill sy'n y babell,
8
sef y bwrdd a'i lestri i gyd, y menora (stand y lampau) a'i hoffer, allor yr arogldarth,
9
yr allor ar gyfer yr offrymau sydd i'w llosgi gyda'i hoffer i gyd, a'r ddysgl fawr gyda'i stand,
10
y gwisgoedd wedi eu brodio'n hardd, gwisg gysegredig Aaron, a'r gwisgoedd i'w feibion pan fyddan nhw'n gwasanaethu fel offeiriaid,
11
yr olew eneinio, a'r arogldarth persawrus ar gyfer y Lle Sanctaidd. Maen nhw i wneud y pethau yma i gyd yn union fel dw i wedi dweud wrthot ti.”
12
Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses,
13
“Dywed wrth bobl Israel, ‘Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cadw fy Sabothau i. Bydd gwneud hynny yn arwydd bob amser o'r berthynas sydd rhyngon ni, i chi ddeall mai fi ydy'r ARGLWYDD sydd wedi'ch cysegru chi yn bobl i mi fy hun.
14
Felly rhaid i chi gadw'r Saboth, a'i ystyried yn sanctaidd. Os ydy rhywun yn ei halogi, y gosb ydy marwolaeth. Yn wir, os ydy rhywun yn gwneud unrhyw waith ar y Saboth, bydd y person hwnnw'n cael ei dorri allan o gymdeithas pobl Dduw.
15
Mae chwech diwrnod i chi allu gweithio, ond mae'r seithfed diwrnod yn Saboth — diwrnod i chi orffwys. Mae'r ARGLWYDD yn ei ystyried yn sbesial, yn ddiwrnod cysegredig, ac os ydy rhywun yn gweithio ar y Saboth, y gosb ydy marwolaeth.
16
Mae pobl Israel i gadw'r Saboth bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad mae'n rhaid ei gadw am byth.
17
Mae'n arwydd o'r berthynas sydd gen i gyda phobl Israel. Roedd yr ARGLWYDD wedi creu y bydysawd a'r ddaear mewn chwe diwrnod. Wedyn dyma fe'n gorffwys ac ymlacio.’”
18
Pan oedd Duw wedi gorffen siarad â Moses ar Fynydd Sinai, dyma fe'n rhoi dwy lech y dystiolaeth iddo — dwy lechen garreg gydag ysgrifen Duw ei hun arnyn nhw.
← Chapter 30
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 32 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40