bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 5
Exodus 5
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 6 →
1
Aeth Moses ac Aaron at y Pharo, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Gad i'm pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gynnal gŵyl i mi yn yr anialwch.’”
2
Ond dyma'r Pharo'n ateb, “A pwy ydy'r ARGLWYDD yma dw i i fod i wrando arno, a gadael i bobl Israel fynd? Dw i ddim yn gwybod pwy ydy e, a dw i ddim yn mynd i adael i Israel fynd yn rhydd ychwaith!”
3
A dyma nhw'n ei ateb, “Mae Duw yr Hebreaid wedi cyfarfod gyda ni. Plîs, gad i ni deithio i'r anialwch am dri diwrnod, er mwyn i ni aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, rhag iddo ein taro ni gyda haint ofnadwy neu i ni gael ein lladd mewn rhyfel.”
4
“Moses, Aaron,” meddai'r brenin, “dych chi'n stopio'r bobl rhag mynd ymlaen gyda'u gwaith! Ewch yn ôl i weithio!
5
Mae'r bobl yma drwy'r wlad i gyd, a dych chi'n ei stopio nhw rhag gweithio!”
6
Felly'r diwrnod hwnnw, dyma'r Pharo yn gorchymyn i'r meistri gwaith a'r fformyn oedd dros y bobl:
7
“Peidiwch rhoi cyflenwad o wellt i'r bobl sy'n gwneud briciau o hyn ymlaen. Gwnewch iddyn nhw gasglu eu gwellt eu hunain!
8
Ond bydd dal ddisgwyl iddyn nhw wneud yr un nifer o friciau ac o'r blaen. Peidiwch gadael iddyn nhw wneud llai. Mae'n amlwg eu bod nhw'n slacio, a dyna pam maen nhw'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'n Duw.’
9
Gwnewch iddyn nhw weithio'n galetach. Fydd ganddyn nhw ddim amser i wrando ar gelwyddau'r dynion yna wedyn!”
10
Felly dyma'r meistri gwaith a'r fformyn yn mynd at bobl Israel, a dweud, “Dyma orchymyn gan y Pharo: ‘Dw i ddim am roi gwellt i chi o hyn ymlaen.
11
Rhaid i chi'ch hunain fynd allan i chwilio am wellt. A rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o friciau ac o'r blaen.’”
12
Felly dyma'r bobl yn mynd allan i wlad yr Aifft i bob cyfeiriad, i gasglu bonion gwellt.
13
Roedd y meistri gwaith yn rhoi pwysau ofnadwy arnyn nhw, “Rhaid i chi wneud yr un faint o waith bob dydd ac o'r blaen, pan oedden ni'n rhoi gwellt i chi!”
14
Roedd yr Israeliaid oedd wedi cael eu penodi'n fformyn gan y meistri gwaith yn cael eu curo am beidio cynhyrchu'r cwota llawn o friciau fel o'r blaen.
15
Felly dyma'r fformyn yn mynd at y Pharo, a pledio arno, “Pam wyt ti'n trin dy weision fel yma?
16
Dŷn ni'n cael dim gwellt, ac eto mae disgwyl i ni wneud briciau! Ni sy'n cael ein curo ond ar y meistri gwaith mae'r bai.”
17
Ond dyma'r Pharo yn dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi bod yn slacio! Dych chi'n ddiog! Dyna pam dych chi'n dweud, ‘Gad i ni fynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
18
Felly ewch, yn ôl i'ch gwaith! Fydd dim gwellt yn cael ei roi i chi, ond rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau!”
19
Roedd fformyn pobl Israel yn gweld eu bod nhw mewn trwbwl pan ddywedwyd wrthyn nhw, “Rhaid i chi gynhyrchu'r un faint o friciau ac o'r blaen.”
20
Wrth iddyn nhw adael y Pharo, roedd Moses ac Aaron yno'n disgwyl amdanyn nhw.
21
A dyma'r fformyn yn dweud wrthyn nhw, “Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn eich barnu chi am droi y Pharo a'i swyddogion yn ein herbyn ni. Dŷn ni'n drewi yn eu golwg nhw! Dych chi wedi'n rhoi ni mewn sefyllfa lle byddan nhw'n ein lladd ni!”
22
Dyma Moses yn mynd yn ôl at yr ARGLWYDD, a dweud, “O! Feistr, pam ti'n trin dy bobl fel yma? Pam yn y byd wnest ti fy anfon i atyn nhw?
23
O'r eiliad es i i siarad â'r Pharo ar dy ran di, mae e wedi achosi trwbwl i'r bobl yma, a dwyt ti wedi gwneud dim byd i'w hachub nhw!”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40