bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Exodus 37
Exodus 37
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 38 →
1
Yna dyma Betsalel yn gwneud yr Arch allan o goed acasia. Roedd hi'n 110 centimetr o hyd, 66 centimetr o led a 66 centimetr o uchder.
2
Gorchuddiodd hi gyda haen o aur pur (y tu mewn a'r tu allan), a gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
3
Yna gwneud pedwar cylch aur, a'u gosod nhw ar draed y gist, dwy bob ochr.
4
Yna gwneud polion o goed acasia wedi eu gorchuddio gydag aur,
5
a rhoi'r polion drwy'r cylchoedd bob ochr i'r Arch, i'w defnyddio i'w chario hi.
6
Wedyn dyma fe'n gwneud caead o aur pur i'r Arch — 110 centimetr o hyd, a 66 centimetr o led.
7
Yna gwneud dau geriwb o aur wedi ei guro (gwaith morthwyl) — un bob pen i'r caead,
8
yn un darn gyda'r caead ei hun.
9
Roedd adenydd y ceriwbiaid ar led yn cysgodi dros gaead yr Arch. Roedd y ceriwbiaid yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i lawr ar y caead.
10
Wedyn dyma fe'n gwneud y bwrdd o goed acasia — 88 centimetr o hyd, 44 centimetr o led, a 66 centimetr o uchder.
11
Gorchuddiodd e gydag aur pur, a gosod border aur o'i gwmpas i'w addurno.
12
Yna gwneud croeslath 75 milimetr o drwch o'i gwmpas — hwnnw hefyd wedi ei addurno yr un fath â'r border.
13
Yna gwnaeth bedwar cylch aur, a'i gosod nhw ar bedair cornel y bwrdd lle mae'r coesau
14
wrth ymyl y croeslath. Roedd y cylchoedd ar gyfer rhoi'r polion trwyddyn nhw i gario'r bwrdd.
15
Yna gwnaeth y polion o goed acasia a'u gorchuddio nhw gydag aur.
16
Yna gwnaeth y llestri oedd ar y bwrdd allan o aur pur — y platiau, pedyll, jygiau a powlenni, i dywallt yr offrymau o ddiod.
17
Yna dyma fe'n gwneud y menora (sef y stand i ddal y lampau) allan o aur pur — gwaith morthwyl, sef aur wedi ei guro. Mae'r cwbl i fod yn un darn — y droed, y goes, a'r cwpanau siâp blodyn gyda calycs oddi tanyn nhw.
18
Roedd chwe cangen yn ymestyn allan o ochrau'r menora, tair bob ochr.
19
Roedd tair cwpan siâp blodyn almon ar bob cangen — pob blodyn gyda calycs a petalau.
20
Ac ar brif goes y menora, pedair cwpan siâp blodyn almon gyda calycs a petalau.
21
Un dan y pâr cyntaf o ganghennau, un dan yr ail, ac un dan y trydydd.
22
Roedd y cwbl wedi ei wneud o un darn o aur pur wedi ei guro — gwaith morthwyl.
23
Yna gwnaeth ei saith lamp, ei gefeiliau a'i phadellau o aur pur.
24
Defnyddiodd 35 cilogram o aur pur i wneud y menora a'r offer oedd gyda hi i gyd.
25
Yna dyma fe'n gwneud yr allor i losgi arogldarth. Gwnaeth hi o goed acasia, yn 45 centimetr sgwâr ac yn 90 centimetr o uchder. Roedd y cyrn arni yn un darn gyda'r allor ei hun.
26
Yna gorchuddiodd hi i gyd gyda haen o aur pur — y top, yr ochrau a'r cyrn. A gosod border aur o'i chwmpas i'w haddurno.
27
Roddodd ddau gylch aur ar y ddwy ochr iddi, gyferbyn â'i gilydd o dan y border, i roi'r polion trwyddyn nhw i gario'r allor.
28
Yna gwnaeth y polion o goed acasia, a'u gorchuddio nhw gydag aur.
29
Wedyn gwnaeth yr olew eneinio cysegredig a'r arogldarth persawrus, wedi ei wneud gan arbenigwr yn y grefft o wneud persawr.
← Chapter 36
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 38 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40