bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 10
2 Samuel 10
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
1
Ac ar ôl hyn y bu i frenin meibion Ammon farw, a Hanun ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
2
Yna y dywedodd Dafydd, Mi a wnaf garedigrwydd â Hanun mab Nahas, megis y gwnaeth ei dad ef garedigrwydd â mi. A Dafydd a anfonodd gyda'i weision i'w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meibion Ammon.
3
A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun eu harglwydd, Wyt ti yn tybied mai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd, oherwydd iddo ddanfon cysurwyr atat ti? onid er mwyn chwilio'r ddinas, a'i throedio, a'i difetha, yr anfonodd Dafydd ei weision atat ti?
4
Yna Hanun a gymerth weision Dafydd, ac a eilliodd hanner eu barfau hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, hyd eu cluniau, ac a'u gollyngodd hwynt ymaith.
5
Pan fynegwyd hyn i Dafydd, efe a anfonodd i'w cyfarfod hwynt; canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Arhoswch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau chwi; ac yna dychwelwch.
6
A meibion Ammon a welsant eu bod yn ffiaidd gan Dafydd; a meibion Ammon a anfonasant ac a gyflogasant y Syriaid o Beth‐rehob, a'r Syriaid o Soba, ugain mil o wŷr traed, a chan frenin Maacha fil o wŷr, ac o Istob ddeuddeng mil o wŷr.
7
A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn.
8
A meibion Ammon a ddaethant, ac a luniaethasant ryfel wrth ddrws y porth: a'r Syriaid o Soba, a Rehob, ac o Istob, a Maacha, oedd o'r neilltu yn y maes.
9
Pan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a ymfyddinodd yn erbyn y Syriaid.
10
A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd, i'w byddino yn erbyn meibion Ammon.
11
Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di i mi yn gynhorthwy; ond os meibion Ammon fyddant drech na thi, yna y deuaf i'th gynorthwyo dithau.
12
Bydd bybyr, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein DUW: a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef.
13
A nesaodd Joab, a'r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i'r rhyfel: a hwy a ffoesant o'i flaen ef.
14
A phan welodd meibion Ammon ffoi o'r Syriaid, hwythau a ffoesant o flaen Abisai, ac a aethant i'r ddinas. A dychwelodd Joab oddi wrth feibion Ammon, ac a ddaeth i Jerwsalem.
15
A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a ymgynullasant ynghyd.
16
A Hadareser a anfonodd, ac a ddug y Syriaid oedd o'r tu hwnt i'r afon: a hwy a ddaethant i Helam, a Sobach tywysog llu Hadareser o'u blaen.
17
A phan fynegwyd i Dafydd hynny, efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth i Helam: a'r Syriaid a ymfyddinasant yn erbyn Dafydd, ac a ymladdasant ag ef.
18
A'r Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a Dafydd a laddodd o'r Syriaid, wŷr saith gant o gerbydau, a deugain mil o wŷr meirch: ac efe a drawodd Sobach tywysog eu llu hwynt, fel y bu efe farw yno.
19
A phan welodd yr holl frenhinoedd oedd weision i Hadareser, eu lladd hwynt o flaen Israel, hwy a heddychasant ag Israel, ac a'u gwasanaethasant hwynt. A'r Syriaid a ofnasant gynorthwyo meibion Ammon mwyach.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24