bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 6
2 Samuel 6
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
1
A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain.
2
A Dafydd a gyfododd, ac a aeth, a'r holl bobl oedd gydag ef, o Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch DUW; enw yr hon a elwir ar enw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn sydd yn aros arni rhwng y ceriwbiaid.
3
A hwy a osodasant arch DUW ar fen newydd; ac a'i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea: Ussa hefyd ac Ahio, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.
4
A hwy a'i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch DUW; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch.
5
Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr ARGLWYDD, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.
6
A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa a estynnodd ei law at arch DUW, ac a ymaflodd ynddi hi; canys yr ychen oedd yn ei hysgwyd.
7
A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd wrth Ussa: a DUW a'i trawodd ef yno am yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch DUW.
8
A bu ddrwg gan Dafydd, am i'r ARGLWYDD rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐Ussa, hyd y dydd hwn.
9
A Dafydd a ofnodd yr ARGLWYDD y dydd hwnnw; ac a ddywedodd, Pa fodd y daw arch yr ARGLWYDD ataf fi?
10
Ac ni fynnai Dafydd fudo arch yr ARGLWYDD ato ef i ddinas Dafydd: ond Dafydd a'i trodd hi i dŷ Obed‐Edom y Gethiad.
11
Ac arch yr ARGLWYDD a arhosodd yn nhŷ Obed‐Edom y Gethiad dri mis: a'r ARGLWYDD a fendithiodd Obed‐Edom, a'i holl dŷ.
12
A mynegwyd i'r brenin Dafydd, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a fendithiodd dŷ Obed‐Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch DUW. Yna Dafydd a aeth, ac a ddug i fyny arch DUW o dŷ Obed‐Edom, i ddinas Dafydd, mewn llawenydd.
13
A phan gychwynnodd y rhai oedd yn dwyn arch yr ARGLWYDD chwech o gamau, yna efe a offrymodd ychen a phasgedigion.
14
A Dafydd a ddawnsiodd â'i holl egni gerbron yr ARGLWYDD; a Dafydd oedd wedi ymwregysu ag effod liain.
15
Felly Dafydd a holl dŷ Israel a ddygasant i fyny arch yr ARGLWYDD, trwy floddest, a sain utgorn.
16
Ac fel yr oedd arch yr ARGLWYDD yn dyfod i mewn i ddinas Dafydd, yna Michal merch Saul a edrychodd trwy ffenestr, ac a ganfu'r brenin Dafydd yn neidio, ac yn llemain o flaen yr ARGLWYDD; a hi a'i dirmygodd ef yn ei chalon.
17
A hwy a ddygasant i mewn arch yr ARGLWYDD, ac a'i gosodasant yn ei lle, yng nghanol y babell, yr hon a osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD.
18
Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw ARGLWYDD y lluoedd.
19
Ac efe a rannodd i'r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i'w dŷ ei hun.
20
Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o'r ynfydion gan ymddiosg.
21
A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr ARGLWYDD, yr hwn a'm dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr ARGLWYDD, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr ARGLWYDD.
22
Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda'r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y'm gogoneddir.
23
Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd hyd ddydd ei marwolaeth.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24