bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 14
2 Samuel 14
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
1
Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom.
2
A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw:
3
A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.
4
A'r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin.
5
A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a'm gŵr a fu farw.
6
Ac i'th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a'i lladdodd ef.
7
Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.
8
A'r brenin a ddywedodd wrth y wraig, Dos i'th dŷ; a mi a roddaf orchymyn o'th blegid di.
9
A'r wraig o Tecoa a ddywedodd wrth y brenin, Bydded y camwedd hwn arnaf fi, fy arglwydd frenin, ac ar dŷ fy nhad i, a'r brenin a'i orseddfainc ef yn ddieuog.
10
A'r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.
11
Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy ARGLWYDD DDUW, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr.
12
Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i'th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed.
13
A'r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl DDUW? canys y mae'r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr.
14
Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug DUW ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho.
15
Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â'm harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i'r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â'r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn.
16
Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a'm mab hefyd o etifeddiaeth DDUW.
17
A'th lawforwyn a ddywedodd, Bydded, atolwg, gair fy arglwydd frenin yn gysur: canys fel angel DUW yw fy Arglwydd frenin, i wrando'r da a'r drwg: a'r ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi.
18
Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd wrth y wraig, Na chela, atolwg, oddi wrthyf fi y peth yr ydwyf yn ei ofyn i ti. A dywedodd y wraig, Llefared yn awr fy arglwydd frenin.
19
A'r brenin a ddywedodd, A ydyw llaw Joab gyda thi yn hyn oll? A'r wraig a atebodd ac a ddywedodd, Fel mai byw dy enaid di, fy arglwydd frenin, nid gwiw troi ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy oddi wrth yr hyn oll a ddywedodd fy arglwydd frenin: canys dy was Joab a orchmynnodd i mi, ac a osododd yr holl eiriau hyn yng ngenau dy lawforwyn:
20
Ar fedr troi'r chwedl y gwnaeth dy was Joab y peth hyn: ond fy arglwydd sydd ddoeth, fel doethineb angel DUW, i wybod yr hyn oll sydd ar y ddaear.
21
A'r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl.
22
A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i'r brenin gyflawni dymuniad ei was.
23
A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.
24
A'r brenin a ddywedodd, Troed i'w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i'w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.
25
Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef.
26
A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a'i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin.
27
A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a'i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.
28
Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin.
29
Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i'w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim.
30
Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân.
31
Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i'w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân?
32
Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y'th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.
33
Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A'r brenin a gusanodd Absalom.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24