bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 8
2 Samuel 8
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
Ac wedi hyn trawodd Dafydd y Philistiaid, ac a'u darostyngodd hwynt: a Dafydd a ddug ymaith Metheg‐amma o law y Philistiaid.
2
Ac efe a drawodd Moab, ac a'u mesurodd hwynt â llinyn, gan eu cwympo hwynt i lawr: ac efe a fesurodd â dau linyn, i ladd; ac â llinyn llawn, i gadw yn fyw. Ac felly y Moabiaid fuant i Dafydd yn weision, yn dwyn treth.
3
Trawodd Dafydd hefyd Hadadeser mab Rehob, brenin Soba, pan oedd efe yn myned i ennill ei derfynau wrth afon Ewffrates.
4
A Dafydd a enillodd oddi arno ef fil o gerbydau, a saith gant o farchogion, ac ugain mil o wŷr traed: a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch pob cerbyd, ac efe a adawodd ohonynt gan cerbyd.
5
A phan ddaeth y Syriad o Damascus, i gynorthwyo Hadadeser brenin Soba, Dafydd a laddodd o'r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr.
6
A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a'r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A'r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe.
7
Dafydd hefyd a gymerth y tarianau aur oedd gan weision Hadadeser, ac a'u dug hwynt i Jerwsalem.
8
O Beta hefyd, ac o Berothai, dinasoedd Hadadeser, y dug y brenin Dafydd lawer iawn o bres.
9
Pan glybu Toi brenin Hamath, daro o Dafydd holl lu Hadadeser;
10
Yna Toi a anfonodd Joram ei fab at y brenin Dafydd, i gyfarch gwell iddo ac i'w fendithio, am iddo ymladd yn erbyn Hadadeser, a'i faeddu ef; (canys gŵr rhyfelgar oedd Hadadeser yn erbyn Toi:) a llestri arian, a llestri aur, a llestri pres ganddo:
11
Y rhai hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i'r ARGLWYDD, gyda'r arian a'r aur a gysegrasai efe o'r holl genhedloedd a oresgynasai efe;
12
Oddi ar Syria, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec, ac o anrhaith Hadadeser mab Rehob, brenin Soba.
13
A Dafydd a enillodd iddo enw, pan ddychwelodd efe o ladd y Syriaid, yn nyffryn yr halen, sef tair mil ar bymtheg.
14
Ac efe a osododd benaethiaid ar Edom; ar holl Edom y gosododd efe benaethiaid, a bu holl Edom yn weision i Dafydd. A'r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd, i ba le bynnag yr aeth efe.
15
A theyrnasodd Dafydd ar holl Israel; ac yr oedd Dafydd yn gwneuthur barn a chyfiawnder i'w holl bobl.
16
A Joab mab Serfia oedd ben ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;
17
A Sadoc mab Ahitub, ac Ahimelech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Seraia yn ysgrifennydd:
18
Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a'r Pelethiaid; a meibion Dafydd oedd dywysogion.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24