bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 21
2 Samuel 21
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
A bu newyn yn nyddiau Dafydd dair blynedd olynol. A Dafydd a ymofynnodd gerbron yr ARGLWYDD. A'r ARGLWYDD a ddywedodd, Oherwydd Saul, ac oherwydd ei dŷ gwaedlyd ef, y mae hyn; oblegid lladd ohono ef y Gibeoniaid.
2
A'r brenin a alwodd am y Gibeoniaid, ac a ymddiddanodd â hwynt; (a'r Gibeoniaid hynny nid oeddynt o feibion Israel, ond o weddill yr Amoriaid; a meibion Israel a dyngasai iddynt hwy: eto Saul a geisiodd eu lladd hwynt, o'i serch i feibion Israel a Jwda.)
3
A Dafydd a ddywedodd wrth y Gibeoniaid, Beth a wnaf i chwi? ac â pha beth y gwnaf gymod, fel y bendithioch chwi etifeddiaeth yr ARGLWYDD?
4
A'r Gibeoniaid a ddywedasant wrtho, Ni fynnwn ni nac arian nac aur gan Saul, na chan ei dŷ ef; ac ni fynnwn ni ladd neb yn Israel. Ac efe a ddywedodd, Yr hyn a ddywedoch chwi, a wnaf i chwi.
5
A hwy a ddywedasant wrth y brenin, Y gŵr a'n difethodd ni, ac a fwriadodd i'n herbyn ni, i'n dinistrio ni rhag aros yn un o derfynau Israel,
6
Rhodder i ni saith o wŷr o'i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i'r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a'u rhoddaf.
7
Ond y brenin a arbedodd Meffiboseth, mab Jonathan, mab Saul, oherwydd llw yr ARGLWYDD yr hwn oedd rhyngddynt hwy, rhwng Dafydd a Jonathan mab Saul.
8
Ond y brenin a gymerth ddau fab Rispa merch Aia, y rhai a ymddûg hi i Saul, sef Armoni a Meffiboseth; a phum mab Michal merch Saul, y rhai a blantodd hi i Adriel mab Barsilai y Maholathiad:
9
Ac efe a'u rhoddes hwynt yn llaw y Gibeoniaid; a hwy a'u crogasant hwy yn y mynydd gerbron yr ARGLWYDD: a'r saith hyn a gydgwympasant, ac a roddwyd i farwolaeth yn y dyddiau cyntaf o'r cynhaeaf, yn nechreuad cynhaeaf yr haidd.
10
A Rispa merch Aia a gymerth sachliain, a hi a'i hestynnodd ef iddi ar y graig, o ddechrau y cynhaeaf nes diferu dwfr arnynt hwy o'r nefoedd, ac ni adawodd hi i ehediaid y nefoedd orffwys arnynt hwy y dydd, na bwystfil y maes liw nos.
11
A mynegwyd i Dafydd yr hyn a wnaethai Rispa merch Aia, gordderchwraig Saul.
12
A Dafydd a aeth ac a ddug esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab, oddi wrth berchenogion Jabes Gilead, y rhai a'u lladratasent hwy o heol Beth‐sar yr hon y crogasai y Philistiaid hwynt ynddi, y dydd y lladdodd y Philistiaid Saul yn Gilboa.
13
Ac efe a ddug i fyny oddi yno esgyrn Saul, ac esgyrn Jonathan ei fab: a hwy a gasglasant esgyrn y rhai a grogasid.
14
A hwy a gladdasant esgyrn Saul a Jonathan ei fab yng ngwlad Benjamin, yn Sela, ym meddrod Cis ei dad: a hwy a wnaethant yr hyn oll a orchmynasai y brenin. A bu DUW fodlon i'r wlad ar ôl hyn.
15
A bu eilwaith ryfel rhwng y Philistiaid ac Israel; a Dafydd a aeth i waered a'i weision gydag ef, ac a ymladdasant â'r Philistiaid. A diffygiodd Dafydd.
16
Ac Isbi‐benob, yr hwn oedd o feibion y cawr, (a phwys ei waywffon yn dri chan sicl o bres,) ac wedi ei wregysu â chleddyf newydd, a feddyliodd ladd Dafydd.
17
Ond Abisai mab Serfia a'i helpiodd ef, ac a drawodd y Philistiad, ac a'i lladdodd ef. Yna gwŷr Dafydd a dyngasant wrtho ef, gan ddywedyd, Nid ei di allan mwyach gyda ni i ryfel, rhag i ti ddiffoddi goleuni Israel.
18
Ac ar ôl hyn fe fu eilwaith ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: yna Sibbechai yr Husathiad a laddodd Saff, yr hwn oedd o feibion y cawr.
19
A bu eto ryfel yn Gob yn erbyn y Philistiaid: ac Elhanan mab Jaareoregim, y Bethlehemiad, a drawodd frawd Goleiath y Gethiad; a phren ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd.
20
A bu eto ryfel yn Gath: ac yr oedd gŵr corffol, a chwech o fysedd ar bob llaw iddo, a chwech o fysedd ar bob troed iddo, pedwar ar hugain o rifedi; efe hefyd oedd fab i'r cawr.
21
Ac efe a amharchodd Israel; a Jonathan mab Simea, brawd Dafydd, a'i lladdodd ef.
22
Y pedwar hyn a aned i'r cawr yn Gath, ac a gwympasant trwy law Dafydd, a thrwy law ei weision ef.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24