bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 15
2 Samuel 15
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Ac wedi hyn y paratôdd Absalom iddo ei hun gerbydau, a meirch, a dengwr a deugain i redeg o'i flaen.
2
Ac Absalom a gyfodai yn fore, ac a safai gerllaw ffordd y porth: ac Absalom a alwai ato bob gŵr yr oedd iddo fater i ddyfod at y brenin am farn, ac a ddywedai, O ba ddinas yr ydwyt ti? Yntau a ddywedai, O un o lwythau Israel y mae dy was.
3
Ac Absalom a ddywedai wrtho ef, Wele, y mae dy faterion yn dda, ac yn uniawn; ond nid oes neb dan y brenin a wrandawo arnat ti.
4
Dywedai Absalom hefyd, O na'm gosodid i yn farnwr yn y wlad, fel y delai ataf fi bob gŵr a fyddai ganddo hawl neu gyngaws; myfi a wnawn gyfiawnder iddo!
5
A phan nesâi neb i ymgrymu iddo ef, efe a estynnai ei law, ac a ymaflai ynddo ef, ac a'i cusanai.
6
Ac fel hyn y gwnâi Absalom i holl Israel y rhai a ddeuent am farn at y brenin. Felly Absalom a ladrataodd galon holl wŷr Israel.
7
Ac ymhen deugain mlynedd y dywedodd Absalom wrth y brenin, Gad i mi fyned, atolwg, a thalu fy adduned a addunedais i'r ARGLWYDD, yn Hebron.
8
Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr ARGLWYDD fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr ARGLWYDD.
9
A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.
10
Eithr Absalom a anfonodd ysbïwyr trwy holl lwythau Israel, gan ddywedyd, Pan glywoch lais yr utgorn, yna dywedwch, Absalom sydd yn teyrnasu yn Hebron.
11
A dau cant o wŷr a aethant gydag Absalom o Jerwsalem, ar wahodd; ac yr oeddynt yn myned yn eu gwiriondeb, ac heb wybod dim oll.
12
Ac Absalom a anfonodd am Ahitoffel y Giloniad, cynghorwr Dafydd, o'i ddinas, o Gilo, tra oedd efe yn offrymu aberthau. A'r cydfradwriaeth oedd gryf; a'r bobl oedd yn amlhau gydag Absalom yn wastadol.
13
A daeth cennad at Dafydd, gan ddywedyd, Y mae calon gwŷr Israel ar ôl Absalom.
14
A dywedodd Dafydd wrth ei holl weision y rhai oedd gydag ef yn Jerwsalem, Cyfodwch, a ffown; canys ni ddihangwn ni gan Absalom: brysiwch i fyned; rhag iddo ef frysio a'n dala ni, a dwyn drwg arnom ni, a tharo'r ddinas â min y cleddyf.
15
A gweision y brenin a ddywedasant wrth y brenin, Wele dy weision yn barod, ar ôl yr hyn oll a ddewiso fy arglwydd frenin.
16
A'r brenin a aeth, a'i holl dylwyth ar ei ôl. A'r brenin a adawodd ddeg o ordderchwragedd i gadw y tŷ.
17
A'r brenin a aeth ymaith, a'r holl bobl ar ei ôl; a hwy a arosasant mewn lle o hirbell.
18
A'i holl weision ef oedd yn cerdded ger ei law ef: yr holl Gerethiaid, a'r holl Belethiaid, a'r holl Gethiaid, y chwe channwr a ddaethai ar ei ôl ef o Gath, oedd yn cerdded o flaen y brenin.
19
Yna y dywedodd y brenin wrth Ittai y Gethiad, Paham yr ei di hefyd gyda ni? Dychwel, a thrig gyda'r brenin: canys alltud ydwyt ti, a dieithr hefyd allan o'th fro dy hun.
20
Doe y daethost ti; a fudwn i di heddiw i fyned gyda ni? Myfi a af: dychwel di, a dwg dy frodyr gyda thi: trugaredd a gwirionedd fyddo gyda thi.
21
Ac Ittai a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw fy arglwydd frenin, yn ddiau yn y lle y byddo fy arglwydd frenin ynddo, pa un bynnag ai mewn angau ai mewn einioes, yno y bydd dy was hefyd.
22
A Dafydd a ddywedodd wrth Ittai, Dos, a cherdda drosodd. Ac Ittai y Gethiad a aeth drosodd, a'i holl wŷr, a'r holl blant oedd gydag ef.
23
A'r holl wlad oedd yn wylofain â llef uchel; a'r holl bobl a aethant drosodd. A'r brenin a aeth dros afon Cidron, a'r holl bobl a aeth drosodd, tua ffordd yr anialwch.
24
Ac wele Sadoc, a'r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod DUW; a hwy a osodasant i lawr arch DUW: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i'r holl bobl ddyfod allan o'r ddinas.
25
A dywedodd y brenin wrth Sadoc, Dychwel ag arch DUW i'r ddinas: os caf fi ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD, efe a'm dwg eilwaith, ac a bair i mi ei gweled hi, a'i babell.
26
Ond os fel hyn y dywed efe; Nid wyf fodlon i ti; wele fi, gwnaed i mi fel y byddo da yn ei olwg.
27
A'r brenin a ddywedodd wrth Sadoc yr offeiriad, Onid gweledydd ydwyt ti? dychwel i'r ddinas mewn heddwch, a'th ddau fab gyda thi, sef Ahimaas dy fab, a Jonathan mab Abiathar.
28
Gwelwch, mi a drigaf yng ngwastadedd yr anialwch, nes dyfod gair oddi wrthych i'w fynegi i mi.
29
Felly Sadoc ac Abiathar a ddygasant yn ei hôl arch DUW i Jerwsalem; ac a arosasant yno.
30
A Dafydd a aeth i fyny i fryn yr Olewydd; ac yr oedd yn myned i fyny ac yn wylo, a'i ben wedi ei orchuddio, ac yr oedd efe yn myned yn droednoeth. A'r holl bobl y rhai oedd gydag ef a orchuddiasant bawb ei ben, ac a aethant i fyny, gan fyned ac wylo.
31
A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O ARGLWYDD, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.
32
A phan ddaeth Dafydd i ben y bryn yr addolodd efe DDUW ynddo, wele Husai yr Arciad yn ei gyfarfod ef, wedi rhwygo ei bais, a phridd ar ei ben.
33
A Dafydd a ddywedodd wrtho, Od ei drosodd gyda mi, ti a fyddi yn faich arnaf:
34
Ond os dychweli i'r ddinas, a dywedyd wrth Absalom, Dy was di, O frenin, fyddaf fi; gwas dy dad fûm hyd yn hyn, ac yn awr dy was dithau fyddaf: ac felly y diddymi i mi gyngor Ahitoffel.
35
Oni bydd gyda thi yno Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid? am hynny pob gair a glywych o dŷ y brenin, mynega i Sadoc ac i Abiathar yr offeiriaid.
36
Wele, y mae yno gyda hwynt eu dau fab, Ahimaas mab Sadoc, a Jonathan mab Abiathar: danfonwch gan hynny gyda hwynt ataf fi bob peth a'r a glywoch.
37
Felly Husai, cyfaill Dafydd, a ddaeth i'r ddinas; ac Absalom a ddaeth i Jerwsalem.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
Recommended Reading
Commentary
2 Samuel Commentaries
→
Devotional
2 Samuel Devotional Guide
→
Get This Bible
Welsh (Beibl William Morgan - Argraffiad ) Study Bible
→