bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 24
2 Samuel 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
1
A thrachefn dicllonedd yr ARGLWYDD a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos, cyfrif Israel a Jwda.
2
Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beer‐seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.
3
A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?
4
A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.
5
A hwy a aethant dros yr Iorddonen, ac a wersyllasant yn Aroer, o'r tu deau i'r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, a thua Jaser.
6
Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim‐hodsi; daethant hefyd i Dan-jaan, ac o amgylch i Sidon;
7
Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a'r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer‐seba.
8
Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.
9
A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.
10
A chalon Dafydd a'i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O ARGLWYDD, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum.
11
A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr ARGLWYDD at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,
12
Dos a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o'th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a gwnaf hynny i ti.
13
Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i'r hwn a'm hanfonodd i.
14
A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr ARGLWYDD, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.
15
Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint yn Israel, o'r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beer‐seba, ddeng mil a thrigain o wŷr.
16
A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i'w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr ARGLWYDD y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
17
A llefarodd Dafydd wrth yr ARGLWYDD, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad.
18
A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i'r ARGLWYDD yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.
19
A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD.
20
Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a'i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin.
21
Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i'r ARGLWYDD, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.
22
A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a'r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.
23
Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i'r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr ARGLWYDD dy DDUW a fyddo bodlon i ti.
24
A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i'r ARGLWYDD fy NUW boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a'r ychen, er deg a deugain o siclau arian.
25
Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A'r ARGLWYDD a gymododd â'r wlad, a'r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24