bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 17
2 Samuel 17
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
1
Dywedodd Ahitoffel hefyd wrth Absalom, Gad i mi yn awr ddewis deuddeng mil o wŷr, a mi a gyfodaf ac a erlidiaf ar ôl Dafydd y nos hon.
2
A mi a ddeuaf arno tra fyddo ef yn lluddedig, ac yn wan ei ddwylo, ac a'i brawychaf ef: a ffy yr holl bobl sydd gydag ef; a mi a drawaf y brenin yn unig.
3
A throaf yr holl bobl atat ti: megis pe dychwelai pob un, yw y gŵr yr ydwyt ti yn ei geisio: felly yr holl bobl fydd mewn heddwch.
4
A da fu'r peth yng ngolwg Absalom, ac yng ngolwg holl henuriaid Israel.
5
Yna y dywedodd Absalom, Galw yn awr hefyd ar Husai yr Arciad, a gwrandawn beth a ddywedo yntau hefyd.
6
A phan ddaeth Husai at Absalom, llefarodd Absalom wrtho ef, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedodd Ahitoffel: a wnawn ni ei gyngor ef? onid e, dywed di.
7
A dywedodd Husai wrth Absalom, Nid da y cyngor a gynghorodd Ahitoffel y waith hon.
8
Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a'i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda'r bobl.
9
Wele, yn awr y mae efe yn llechu mewn rhyw ogof, neu mewn rhyw le: a phan syrthio rhai ohonynt yn y dechrau, yna y bobl a glyw, ac a ddywed, Bu laddfa ymysg y bobl sydd ar ôl Absalom.
10
Yna yr un grymus, yr hwn y mae ei galon fel calon llew, a lwfrha: canys gŵyr holl Israel mai glew yw dy dad di, ac mai gwŷr grymus yw y rhai sydd gydag ef.
11
Am hynny y cynghoraf, lwyr gasglu atat ti holl Israel, o Dan hyd Beer‐seba, fel y tywod wrth y môr o amldra, a myned o'th wyneb di dy hun i'r rhyfel.
12
Felly y deuwn arno ef i un o'r lleoedd yr hwn y ceffir ef ynddo, ac a ruthrwn arno ef fel y syrth y gwlith ar y ddaear: ac ni adewir dim ohono ef, nac un chwaith o'r holl wŷr sydd gydag ef.
13
Ond os i ddinas yr ymgasgl efe, yna holl Israel a ddygant raffau at y ddinas honno, a ni a'i tynnwn hi i'r afon, fel na chaffer yno un garegan.
14
A dywedodd Absalom, a holl wŷr Israel, Gwell yw cyngor Husai yr Arciad na chyngor Ahitoffel. Canys yr ARGLWYDD a ordeiniasai ddiddymu cyngor da Ahitoffel, fel y dygai yr ARGLWYDD ddrwg ar Absalom.
15
Yna y dywedodd Husai wrth Sadoc ac wrth Abiathar yr offeiriaid, Fel hyn ac fel hyn y cynghorodd Ahitoffel i Absalom ac i henuriaid Israel: ac fel hyn ac fel hyn y cynghorais innau.
16
Yn awr gan hynny anfonwch yn fuan, a mynegwch i Dafydd, gan ddywedyd, Nac aros dros nos yng ngwastadedd yr anialwch, ond gan fyned dos; rhag difa'r brenin a'r holl bobl sydd gydag ef.
17
Jonathan hefyd ac Ahimaas oedd yn sefyll wrth En‐rogel; ac fe aeth llances ac a fynegodd iddynt. Hwythau a aethant ac a fynegasant i'r brenin Dafydd: canys ni allent hwy ymddangos i fyned i'r ddinas.
18
Eto llanc a'u gwelodd hwynt, ac a fynegodd i Absalom: ond hwy a aethant ymaith ill dau yn fuan, ac a ddaethant i dŷ gŵr yn Bahurim, ac iddo ef yr oedd pydew yn ei gyntedd; a hwy a aethant i waered yno.
19
A'r wraig a gymerth ac a ledodd glawr ar wyneb y pydew, ac a daenodd arno falurion ŷd; fel na wybuwyd y peth.
20
A phan ddaeth gweision Absalom at y wraig i'r tŷ, hwy a ddywedasant, Pa le y mae Ahimaas a Jonathan? A'r wraig a ddywedodd wrthynt, Hwy a aethant dros yr aber ddwfr. A phan geisiasant, ac nas cawsant hwynt, yna y dychwelasant i Jerwsalem.
21
Ac ar ôl iddynt hwy fyned ymaith, yna y lleill a ddaethant i fyny o'r pydew, ac a aethant ac a fynegasant i'r brenin Dafydd; ac a ddywedasant wrth Dafydd, Cyfodwch, ac ewch yn fuan dros y dwfr; canys fel hyn y cynghorodd Ahitoffel yn eich erbyn chwi.
22
Yna y cododd Dafydd a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a aethant dros yr Iorddonen: erbyn goleuo'r bore nid oedd un yn eisiau a'r nad aethai dros yr Iorddonen.
23
A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i'w dŷ ei hun, i'w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad.
24
Yna Dafydd a ddaeth i Mahanaim. Ac Absalom a aeth dros yr Iorddonen, efe a holl wŷr Israel gydag ef.
25
Ac Absalom a osododd Amasa yn lle Joab ar y llu, Ac Amasa oedd fab i ŵr a'i enw Ithra, yr hwn oedd Israeliad, yr hwn a aeth i mewn at Abigail merch Nahas, chwaer Serfia, mam Joab.
26
Felly y gwersyllodd Israel ac Absalom yng ngwlad Gilead.
27
A phan ddaeth Dafydd i Mahanaim, Sobi mab Nahas o Rabba meibion Ammon, a Machir mab Ammïel o Lo‐debar, a Barsilai y Gileadiad o Rogelim,
28
A ddygasant welyau, a chawgiau, a llestri pridd, a gwenith, a haidd, a blawd, a chras ŷd, a ffa, a ffacbys, a chras bys,
29
A mêl, ac ymenyn, a defaid, a chaws gwartheg, i Dafydd, ac i'r bobl oedd gydag ef, i'w bwyta. Canys dywedasant, Y mae y bobl yn newynog, yn flin hefyd, ac yn sychedig yn yr anialwch.
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24