bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 18
2 Samuel 18
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
A Dafydd a gyfrifodd y bobl oedd gydag ef, ac a osododd arnynt hwy filwriaid a chanwriaid.
2
A Dafydd a anfonodd o'r bobl y drydedd ran dan law Joab, a'r drydedd ran dan law Abisai mab Serfia, brawd Joab, a'r drydedd ran dan law Ittai y Gethiad. A'r brenin a ddywedodd wrth y bobl, Gan fyned yr af finnau hefyd gyda chwi.
3
Ond y bobl a atebodd, Nid ei di allan: canys os gan ffoi y ffown ni, ni osodant hwy eu meddwl arnom ni; ac os bydd marw ein hanner ni, ni osodant eu meddwl arnom: ond yn awr yr ydwyt ti fel deng mil ohonom ni: yn awr gan hynny gwell yw i ti fod i'n cynorthwyo ni o'r ddinas.
4
A dywedodd y brenin wrthynt hwy, Gwnaf yr hyn fyddo da yn eich golwg chwi. A'r brenin a safodd gerllaw y porth; a'r holl bobl a aethant allan yn gannoedd ac yn filoedd.
5
A'r brenin a orchmynnodd i Joab, ac Abisai, ac Ittai, gan ddywedyd, Byddwch esmwyth, er fy mwyn i, wrth y llanc Absalom. A'r holl bobl a glywsant pan orchmynnodd y brenin i'r holl flaenoriaid yn achos Absalom.
6
Felly yr aeth y bobl i'r maes i gyfarfod Israel: a'r rhyfel fu yng nghoed Effraim.
7
Ac yno y lladdwyd pobl Israel o flaen gweision Dafydd: ac yno y bu lladdfa fawr y dwthwn hwnnw, sef ugain mil.
8
Canys y rhyfel oedd yno wedi gwasgaru ar hyd wyneb yr holl wlad: a'r coed a ddifethodd fwy o'r bobl nag a ddifethodd y cleddyf y diwrnod hwnnw.
9
Ac Absalom a gyfarfu â gweision Dafydd yn eu hwyneb. Ac Absalom oedd yn marchogaeth ar ful, a'r mul a aeth dan dewfrig derwen fawr, a'i ben ef a lynodd yn y dderwen: felly yr oedd efe rhwng y nefoedd a'r ddaear; a'r mul oedd dano ef a aeth ymaith.
10
A rhyw un a ganfu hynny, ac a fynegodd i Joab, ac a ddywedodd, Wele, gwelais Absalom ynghrog mewn derwen.
11
A dywedodd Joab wrth y gŵr oedd yn mynegi iddo, Ac wele, ti a'i gwelaist ef; paham nas trewaist ef yno i'r llawr, ac arnaf fi roddi i ti ddeg sicl o arian, ac un gwregys?
12
A dywedodd y gŵr wrth Joab, Pe cawn bwyso ar fy llaw fil o siclau arian, nid estynnwn fy llaw yn erbyn mab y brenin: canys gorchmynnodd y brenin lle y clywsom ni wrthyt ti, ac wrth Abisai, ac wrth Ittai, gan ddywedyd, Gwyliwch gyffwrdd o neb â'r llanc Absalom.
13
Os amgen, mi a wnaethwn ffalster yn erbyn fy einioes: canys nid oes dim yn guddiedig oddi wrth y brenin; tithau hefyd a safasit yn fy erbyn.
14
Yna y dywedodd Joab, Nid arhoaf fel hyn gyda thi. Ac efe a gymerth dair o bicellau yn ei law, ac a'u brathodd trwy galon Absalom, ac efe eto yn fyw yng nghanol y dderwen.
15
A'r deg llanc y rhai oedd yn dwyn arfau Joab a amgylchynasant, ac a drawsant Absalom, ac a'i lladdasant ef.
16
A Joab a utganodd mewn utgorn; a'r bobl a ddychwelodd o erlid ar ôl Israel: canys Joab a ataliodd y bobl.
17
A hwy a gymerasant Absalom, ac a'i bwriasant ef mewn ffos fawr yn y coed, ac a osodasant arno garnedd gerrig fawr iawn: a holl Israel a ffoesant bob un i'w babell.
18
Ac Absalom a gymerasai ac a osodasai iddo yn ei fywyd golofn, yn nyffryn y brenin: canys efe a ddywedodd, Nid oes fab gennyf i wneuthur coffa am fy enw: ac efe a alwodd y golofn ar ei enw ei hun. A hi a elwir Lle Absalom, hyd y dydd hwn.
19
Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd, Gad i mi redeg yn awr, a mynegi i'r brenin, ddarfod i'r ARGLWYDD ei ddial ef ar ei elynion.
20
A Joab a ddywedodd wrtho ef, Ni byddi di yn genhadwr y dydd hwn, eithr mynegi ddiwrnod arall: ond heddiw ni byddi di gennad, oherwydd marw mab y brenin.
21
Yna y dywedodd Joab wrth Cusi, Dos, dywed i'r brenin yr hyn a welaist. A Chusi a ymgrymodd i Joab, ac a redodd.
22
Yna Ahimaas mab Sadoc a ddywedodd eilwaith wrth Joab, Beth bynnag a fyddo, gad i minnau, atolwg, redeg ar ôl Cusi. A dywedodd Joab, I ba beth y rhedi di, fy mab, gan nad oes gennyt genadwriaeth addas?
23
Ond beth bynnag a fyddo, eb efe, gad i mi redeg. A dywedodd yntau wrtho, Rhed. Felly Ahimaas a redodd ar hyd y gwastadedd, ac a aeth heibio i Cusi.
24
A Dafydd oedd yn eistedd rhwng y ddau borth: a'r gwyliedydd a aeth ar nen y porth ar y mur, ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn rhedeg ei hunan.
25
A'r gwyliedydd a waeddodd, ac a fynegodd i'r brenin. A'r brenin a ddywedodd, Os ei hun y mae efe, cenadwriaeth sydd yn ei enau ef. Ac efe a ddaeth yn fuan, ac a nesaodd.
26
A'r gwyliedydd a ganfu ŵr arall yn rhedeg: a'r gwyliedydd a alwodd ar y porthor, ac a ddywedodd, Wele ŵr arall yn rhedeg ei hunan. A dywedodd y brenin, Hwn hefyd sydd gennad.
27
A'r gwyliedydd a ddywedodd, Yr ydwyf fi yn gweled rhediad y blaenaf fel rhediad Ahimaas mab Sadoc. A dywedodd y brenin, Gŵr da yw hwnnw, ac â chenadwriaeth dda y daw efe.
28
Ac Ahimaas a alwodd, ac a ddywedodd wrth y brenin, Heddwch: ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin, ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a warchaeodd ar y gwŷr a gyfodasant eu llaw yn erbyn fy arglwydd frenin.
29
A'r brenin a ddywedodd, Ai dihangol y llanc Absalom? A dywedodd Ahimaas, Gwelais gythrwfl mawr, pan anfonodd Joab was y brenin, a'th was dithau, ond ni wybûm i beth ydoedd.
30
A'r brenin a ddywedodd, Tro heibio; saf yma. Ac efe a drodd heibio, ac a safodd.
31
Ac wele, Cusi a ddaeth. A dywedodd Cusi, Cenadwri, arglwydd frenin: canys yr ARGLWYDD a'th ddialodd di heddiw ar bawb a'r a ymgyfododd i'th erbyn.
32
A dywedodd y brenin wrth Cusi, A ddihangodd y llanc Absalom? A dywedodd Cusi, Fel y llanc hwnnw y byddo gelynion fy arglwydd frenin, a'r holl rai a ymgyfodant i'th erbyn di er niwed i ti.
33
A'r brenin a gyffrôdd, ac a aeth i fyny i ystafell y porth, ac a wylodd: ac fel hyn y dywedodd efe wrth fyned; O fy mab Absalom, fy mab, fy mab Absalom! O na buaswn farw drosot ti, Absalom, fy mab, fy mab!
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24