bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 22
2 Samuel 22
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
1
A Dafydd a lefarodd wrth yr ARGLWYDD eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei holl elynion, ac o law Saul.
2
Ac efe a ddywedodd, Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, a'm hamddiffynfa, a'm gwaredydd i;
3
DUW fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dŵr a'm noddfa, fy achubwr; rhag trais y'm hachubaist.
4
Galwaf ar yr ARGLWYDD canmoladwy: felly y'm cedwir rhag fy ngelynion.
5
Canys gofidion angau a'm cylchynasant; afonydd y fall a'm dychrynasant i.
6
Doluriau uffern a'm hamgylchynasant; maglau angau a'm rhagflaenasant.
7
Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr ARGLWYDD, ac y gwaeddais ar fy NUW; ac efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd a aeth i'w glustiau ef.
8
Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio.
9
Dyrchafodd mwg o'i ffroenau ef, a thân o'i enau ef a ysodd: glo a enynasant ganddo ef.
10
Efe a ogwyddodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd; a thywyllwch oedd dan ei draed ef.
11
Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.
12
Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o'i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
13
Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.
14
Yr ARGLWYDD a daranodd o'r nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef.
15
Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a'u drylliodd hwynt.
16
Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr ARGLWYDD, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.
17
Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.
18
Gwaredodd fi rhag fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion; am eu bod yn drech na mi.
19
Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr ARGLWYDD oedd gynhaliad i mi.
20
Efe a'm dug i ehangder: efe a'm gwaredodd i, am iddo ymhoffi ynof.
21
Yr ARGLWYDD a'm gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder: yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi.
22
Canys mi a gedwais ffyrdd yr ARGLWYDD, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy NUW.
23
Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i: ac oddi wrth ei ddeddfau ni chiliais i.
24
Bûm hefyd berffaith ger ei fron ef; ac ymgedwais rhag fy anwiredd.
25
A'r ARGLWYDD a'm gobrwyodd innau yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl fy nglendid o flaen ei lygaid ef.
26
A'r trugarog y gwnei drugaredd: â'r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd.
27
A'r glân y gwnei lendid; ac â'r cyndyn yr ymgyndynni.
28
Y bobl gystuddiedig a waredi: ond y mae dy lygaid ar y rhai uchel, i'w darostwng.
29
Canys ti yw fy nghannwyll i, O ARGLWYDD; a'r ARGLWYDD a lewyrcha fy nhywyllwch.
30
Oblegid ynot ti y rhedaf trwy fyddin: trwy fy NUW y llamaf dros fur.
31
DUW sydd berffaith ei ffordd; ymadrodd yr ARGLWYDD sydd buredig: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo.
32
Canys pwy sydd DDUW, heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig, eithr ein DUW ni?
33
DUW yw fy nghadernid a'm nerth; ac a rwyddhaodd fy ffordd i yn berffaith.
34
Efe sydd yn gwneuthur fy nhraed fel traed ewigod; ac efe sydd yn fy ngosod ar fy uchelfaoedd.
35
Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllir bwa dur yn fy mreichiau.
36
Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; ac â'th fwynder y lluosogaist fi.
37
Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy sodlau.
38
Erlidiais fy ngelynion, a difethais hwynt; ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt.
39
Difeais hwynt hefyd, a thrywenais hwynt, fel na chyfodent; a hwy a syrthiasant dan fy nhraed i.
40
Canys ti a'm gwregysaist i â nerth i ryfel: y rhai a ymgyfodent i'm herbyn, a ddarostyngaist danaf.
41
Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion.
42
Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid atebodd hwynt.
43
Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel tom yr heolydd, a thaenais hwynt.
44
Gwaredaist fi rhag cynhennau fy mhobl; cedwaist fi yn ben ar genhedloedd: pobl nid adnabûm a'm gwasanaethant.
45
Meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi: pan glywant, gwrandawant arnaf fi.
46
Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant o'u carchardai.
47
Byw fyddo yr ARGLWYDD, a bendigedig fyddo fy nghraig; a dyrchafer DUW, craig fy iachawdwriaeth.
48
DUW sydd yn fy nial i, ac sydd yn darostwng pobloedd danaf fi,
49
Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a'm dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i'm herbyn; rhag y gŵr traws y'm hachubaist i.
50
Am hynny y moliannaf di, O ARGLWYDD, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i'th enw.
51
Efe sydd dŵr iachawdwriaeth i'w frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i'w eneiniog, i Dafydd, ac i'w had yn dragywydd.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24