bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 23
2 Samuel 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
Dyma eiriau diwethaf Dafydd. Dywedodd Dafydd mab Jesse, a dywedodd y gŵr a osodwyd yn uchel, eneiniog DUW Jacob, a pheraidd ganiedydd Israel;
2
Ysbryd yr ARGLWYDD a lefarodd ynof fi, a'i ymadrodd ef oedd ar fy nhafod.
3
DUW Israel a ddywedodd wrthyf fi, Craig Israel a ddywedodd, Bydded llywodraethwr ar ddynion yn gyfiawn, yn llywodraethu mewn ofn DUW:
4
Ac efe a fydd fel y bore‐oleuni, pan gyfodo haul foregwaith heb gymylau: fel eginyn a dyf o'r ddaear, gan lewyrchiad yn ôl glaw.
5
Er nad yw fy nhŷ i felly gyda DUW; eto cyfamod tragwyddol a wnaeth efe â mi, wedi ei luniaethu yn hollol ac yn sicr; canys fy holl iachawdwriaeth, a'm holl ddymuniad yw, er nad yw yn peri iddo flaguro.
6
A'r anwir fyddant oll fel drain wedi eu bwrw heibio: canys mewn llaw nis cymerir hwynt.
7
Ond y gŵr a gyffyrddo â hwynt a ddiffynnir â haearn, ac â phaladr gwaywffon; ac â thân y llosgir hwynt yn eu lle.
8
Dyma enwau y cedyrn oedd gan Dafydd. Y Tachmoniad a eisteddai yn y gadair, yn bennaeth y tywysogion; hwnnw oedd Adino yr Esniad: efe a ruthrodd yn erbyn wyth cant, y rhai a laddodd efe ar unwaith.
9
Ac ar ei ôl ef yr oedd Eleasar mab Dodo, mab Ahohi, ymhlith y tri chadarn, gyda Dafydd, pan ddifenwasant hwy y Philistiaid a ymgynullasent yno i ryfel, a phan aeth gwŷr Israel ymaith.
10
Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o'i law ef wrth y cleddyf: a'r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a'r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio.
11
Ac ar ei ôl ef yr oedd Samma mab Age yr Harariad. A'r Philistiaid a ymgynullasent yn dorf; ac yr oedd yno ran o'r maes yn llawn o ffacbys: a'r bobl a ffodd o flaen y Philistiaid.
12
Ond efe a safodd yng nghanol y rhandir, ac a'i hachubodd, ac a laddodd y Philistiaid. Felly y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared mawr.
13
A thri o'r deg pennaeth ar hugain a ddisgynasant, ac a ddaethant y cynhaeaf at Dafydd i ogof Adulam: a thorf y Philistiaid oedd yn gwersyllu yn nyffryn Reffaim.
14
A Dafydd oedd yna mewn amddiffynfa: a sefyllfa y Philistiaid ydoedd yna yn Bethlehem.
15
A blysiodd Dafydd, a dywedodd, Pwy a'm dioda i â dwfr o bydew Bethlehem, yr hwn sydd wrth y porth?
16
A'r tri chadarn a ruthrasant trwy wersyll y Philistiaid, ac a dynasant ddwfr o bydew Bethlehem, yr hwn oedd wrth y porth, ac a'i cymerasant hefyd, ac a'i dygasant at Dafydd: ond ni fynnai efe ei yfed, eithr efe a'i diodoffrymodd ef i'r ARGLWYDD;
17
Ac a ddywedodd, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur hyn; onid gwaed y gwŷr a aethant mewn enbydrwydd am eu heinioes yw hwn? Am hynny ni fynnai efe ei yfed. Hyn a wnaeth y tri chadarn hynny.
18
Ac Abisai brawd Joab, mab Serfia, oedd bennaf o'r tri. Ac efe a gyfododd ei waywffon yn erbyn tri chant, ac a'u lladdodd hwynt: ac iddo ef yr oedd yr enw ymhlith y tri.
19
Onid anrhydeddusaf oedd efe o'r tri? a bu iddynt yn dywysog: eto ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf.
20
A Benaia mab Jehoiada, mab gŵr grymus o Cabseel, aml ei weithredoedd, efe a laddodd ddau o gedyrn Moab: ac efe a aeth i waered, ac a laddodd lew mewn pydew yn amser eira.
21
Ac efe a drawodd Eifftddyn, gŵr golygus o faint: ac yn llaw yr Eifftiad yr oedd gwaywffon; eithr efe a ddaeth i waered ato ef â ffon, ac a ddug y waywffon o law yr Eifftiad, ac a'i lladdodd ef â'i waywffon ei hun.
22
Hyn a wnaeth Benaia mab Jehoiada: ac iddo yr oedd yr enw ymhlith y tri chadarn.
23
Anrhydeddusach oedd na'r deg ar hugain; ond ni chyrhaeddodd efe y tri chyntaf: a Dafydd a'i gosododd ef ar ei wŷr o gard.
24
Asahel brawd Joab oedd un o'r deg ar hugain; Elhanan mab Dodo y Bethlehemiad,
25
Samma yr Harodiad, Elica yr Harodiad,
26
Heles y Paltiad, Ira mab Icces y Tecoiad,
27
Abieser yr Anathothiad, Mebunnai yr Husathiad,
28
Salmon yr Ahohiad, Maharai y Netoffathiad,
29
Heleb mab Baana y Netoffathiad, Ittai mab Ribai o Gibea meibion Benjamin,
30
Benaia y Pirathoniad, Hidai o afonydd Gaas,
31
Abi‐albon yr Arbathiad, Asmafeth y Barhumiad,
32
Eliahba y Saalboniad; o feibion Jasen, Jonathan,
33
Samma yr Harariad, Ahïam mab Sarar yr Harariad,
34
Eliffelet mab Ahasbai, mab y Maachathiad, Elïam mab Ahitoffel y Giloniad,
35
Hesrai y Carmeliad, Paarai yr Arbiad,
36
Igal mab Nathan o Soba, Bani y Gadiad,
37
Selec yr Ammoniad, Naharai y Beerothiad yn dwyn arfau Joab mab Serfia,
38
Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad,
39
Ureias yr Hethiad: dau ar bymtheg ar hugain o gwbl.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24