bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 12
2 Samuel 12
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
1
A'r ARGLWYDD a anfonodd Nathan at Dafydd. Ac efe a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Dau ŵr oedd yn yr un ddinas; y naill yn gyfoethog, a'r llall yn dlawd.
2
Gan y cyfoethog yr oedd llawer iawn o ddefaid a gwartheg:
3
A chan y tlawd nid oedd dim ond un oenig fechan, yr hon a brynasai efe, ac a fagasai; a hi a gynyddasai gydag ef, a chyda'i blant: o'i damaid ef y bwytâi hi, ac o'i gwpan ef yr yfai hi, ac yn ei fynwes ef y gorweddai hi, ac yr oedd hi iddo megis merch.
4
Ac ymdeithydd a ddaeth at y gŵr cyfoethog; ond efe a arbedodd gymryd o'i ddefaid ei hun, ac o'i wartheg ei hun, i arlwyo i'r ymdeithydd a ddaethai ato; ond efe a gymerth oenig y gŵr tlawd, ac a'i paratôdd i'r gŵr a ddaethai ato.
5
A digofaint Dafydd a enynnodd yn ddirfawr wrth y gŵr; ac efe a ddywedodd wrth Nathan, Fel mai byw yr ARGLWYDD, euog o farwolaeth yw y gŵr a wnaeth hyn.
6
A'r oenig a dâl efe adref yn bedwar dyblyg; oherwydd iddo wneuthur y peth hyn, ac nad arbedodd.
7
A dywedodd Nathan wrth Dafydd, Ti yw y gŵr. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a'th eneiniais di yn frenin ar Israel, myfi hefyd a'th waredais di o law Saul:
8
Rhoddais hefyd i ti dŷ dy arglwydd, a gwragedd dy arglwydd yn dy fynwes, a mi a roddais i ti dŷ Israel a Jwda; a phe rhy fychan fuasai hynny, myfi a roddaswn i ti fwy o lawer.
9
Paham y dirmygaist air yr ARGLWYDD, i wneuthur drwg yn ei olwg ef? Ureias yr Hethiad a drewaist ti â'r cleddyf, a'i wraig ef a gymeraist i ti yn wraig, a thi a'i lleddaist ef â chleddyf meibion Ammon.
10
Yn awr gan hynny nid ymedy y cleddyf â'th dŷ di byth; oherwydd i ti fy nirmygu i, a chymryd gwraig Ureias yr Hethiad i fod yn wraig i ti.
11
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, myfi a gyfodaf i'th erbyn ddrwg o'th dŷ dy hun, a mi a ddygaf dy wragedd di yng ngŵydd dy lygaid, ac a'u rhoddaf hwynt i'th gymydog, ac efe a orwedd gyda'th wragedd di yng ngolwg yr haul hwn.
12
Er i ti wneuthur mewn dirgelwch; eto myfi a wnaf y peth hyn gerbron holl Israel, a cherbron yr haul.
13
A dywedodd Dafydd wrth Nathan, Pechais yn erbyn yr ARGLWYDD. A Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Yr ARGLWYDD hefyd a dynnodd ymaith dy bechod di: ni byddi di marw.
14
Eto, oherwydd i ti beri i elynion yr ARGLWYDD gablu trwy y peth hyn, y plentyn a anwyd i ti a fydd marw yn ddiau.
15
A Nathan a aeth i'w dŷ. A'r ARGLWYDD a drawodd y plentyn a blantasai gwraig Ureias i Dafydd; ac efe a aeth yn glaf iawn.
16
Dafydd am hynny a ymbiliodd â DUW dros y bachgen; a Dafydd a ymprydiodd ympryd, ac a aeth ac a orweddodd ar y ddaear ar hyd y nos.
17
A henuriaid ei dŷ ef a gyfodasant ato ef, i beri iddo godi oddi ar y ddaear: ond ni fynnai efe, ac ni fwytâi fara gyda hwynt.
18
Ac ar y seithfed dydd y bu farw y plentyn. A gweision Dafydd a ofnasant fynegi iddo ef farw y bachgen: canys dywedasant, Wele, tra oedd y bachgen yn fyw y llefarasom wrtho, ond ni wrandawai ar ein llais, pa fodd gan hynny yr ymofidia, os dywedwn wrtho farw y plentyn?
19
Ond pan welodd Dafydd ei weision yn sibrwd, deallodd Dafydd farw y plentyn: a Dafydd a ddywedodd wrth ei weision, A fu farw y plentyn? A hwy a ddywedasant, Efe a fu farw.
20
Yna Dafydd a gyfododd oddi ar y ddaear, ac a ymolchodd, ac a ymeneiniodd, ac a newidiodd ei ddillad, ac a ddaeth i dŷ yr ARGLWYDD, ac a addolodd: wedi hynny y daeth efe i'w dŷ ei hun; ac a ofynnodd, a hwy a roddasant iddo fara, ac efe a fwytaodd.
21
Yna ei weision a ddywedasant wrtho ef, Pa beth yw hyn a wnaethost ti? dros y plentyn byw yr ymprydiaist, ac yr wylaist; ond pan fu y plentyn farw, ti a gyfodaist ac a fwyteaist fara.
22
Ac efe a ddywedodd, Tra yr ydoedd y plentyn yn fyw, yr ymprydiais ac yr wylais: canys mi a ddywedais, Pwy a ŵyr a drugarha yr ARGLWYDD wrthyf, fel y byddo byw y plentyn?
23
Ond yn awr efe fu farw, i ba beth yr ymprydiwn? a allaf fi ei ddwyn ef yn ei ôl mwyach? myfi a af ato ef, ond ni ddychwel efe ataf fi.
24
A Dafydd a gysurodd Bathseba ei wraig, ac a aeth i mewn ati hi, ac a orweddodd gyda hi: a hi a ymddûg fab, ac efe a alwodd ei enw ef Solomon. A'r ARGLWYDD a'i carodd ef.
25
Ac efe a anfonodd trwy law Nathan y proffwyd; ac efe a alwodd ei enw ef Jedidia oblegid yr ARGLWYDD.
26
A Joab a ymladdodd yn erbyn Rabba meibion Ammon, ac a enillodd y frenhinol ddinas.
27
A Joab a anfonodd genhadau at Dafydd, ac a ddywedodd, Rhyfelais yn erbyn Rabba, ac a enillais ddinas y dyfroedd.
28
Yn awr gan hynny casgl weddill y bobl, a gwersylla yn erbyn y ddinas, ac ennill hi; rhag i mi ennill y ddinas, a galw fy enw i arni hi.
29
A Dafydd a gasglodd yr holl bobl, ac a aeth i Rabba, ac a ymladdodd yn ei herbyn, ac a'i henillodd hi.
30
Ac efe a gymerodd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben; a'i phwys hi oedd dalent o aur, gyda'r maen gwerthfawr: a hi a osodwyd ar ben Dafydd. Ac efe a ddug ymaith o'r ddinas anrhaith fawr iawn.
31
Ac efe a ddug ymaith y bobl oedd ynddi, ac a'u gosododd dan lifiau, a than ogau heyrn, a than fwyeill heyrn, ac a'u bwriodd hwynt i'r odynau calch: ac felly y gwnaeth i holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a'r holl bobl i Jerwsalem.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24