bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
2 Samuel 20
2 Samuel 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
1
Ac yno y digwyddodd bod gŵr i'r fall, a'i enw Seba, mab Bichri, gŵr o Jemini; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac a ddywedodd, Nid oes i ni ddim rhan yn Dafydd, nac etifeddiaeth i ni ym mab Jesse: pawb i'w babell, O Israel.
2
Felly holl wŷr Israel a aethant i fyny oddi ar ôl Dafydd, ar ôl Seba mab Bichri: ond gwŷr Jwda a lynasant wrth eu brenin, o'r Iorddonen hyd Jerwsalem.
3
A daeth Dafydd i'w dŷ ei hun i Jerwsalem; a'r brenin a gymerth y deg gordderchwraig a adawsai efe i gadw y tŷ, ac a'u rhoddes hwynt mewn cadwraeth, ac a'u porthodd hwynt; ond nid aeth efe i mewn atynt hwy: eithr buant yn rhwym hyd ddydd eu marwolaeth, yn byw mewn gweddwdod.
4
Yna y dywedodd y brenin wrth Amasa, Cynnull i mi wŷr Jwda erbyn y trydydd dydd; a bydd dithau yma.
5
Felly Amasa a aeth i gynnull Jwda: ond efe a drigodd yn hwy na'r amser terfynedig a osodasai efe iddo.
6
A dywedodd Dafydd wrth Abisai, Seba mab Bichri a'n dryga ni yn waeth nag Absalom: cymer di weision dy arglwydd, ac erlid ar ei ôl ef, rhag iddo gael y dinasoedd caerog, ac ymachub o'n golwg ni.
7
A gwŷr Joab, a'r Cerethiaid, y Pelethiaid hefyd, a'r holl gedyrn, a aethant ar ei ôl ef; ac a aethant allan o Jerwsalem, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.
8
Pan oeddynt hwy wrth y maen mawr sydd yn Gibeon, Amasa a aeth o'u blaen hwynt. A Joab oedd wedi gwregysu ei gochl oedd amdano, ac arni yr oedd gwregys â chleddyf wedi ei rwymo ar ei lwynau ef yn ei wain; a phan gerddai efe, y cleddyf a syrthiai.
9
A dywedodd Joab wrth Amasa, A wyt ti yn llawen, fy mrawd? A llaw ddeau Joab a ymaflodd ym marf Amasa i'w gusanu ef.
10
Ond ni ddaliodd Amasa ar y cleddyf oedd yn llaw Joab: felly efe a'i trawodd ef ag ef dan y bumed ais, ac a ollyngodd ei berfedd ef i'r llawr, ac nid aildrawodd ef: ac efe a fu farw. Felly Joab ac Abisai ei frawd a ganlynodd ar ôl Seba mab Bichri.
11
Ac un o weision Joab oedd yn sefyll yn ei ymyl ef, ac a ddywedodd, Pwy bynnag a ewyllysio yn dda i Joab, a phwy bynnag sydd gyda Dafydd, eled ar ôl Joab.
12
Ac Amasa oedd yn ymdrybaeddu mewn gwaed yng nghanol y briffordd. A phan welodd y gŵr yr holl bobl yn sefyll, efe a symudodd Amasa oddi ar y briffordd i'r maes, ac a daflodd gadach arno, pan welodd efe bawb a'r oedd yn dyfod ato ef yn sefyll.
13
Pan symudwyd ef oddi ar y briffordd, yr holl wŷr a aethant ar ôl Joab, i erlid ar ôl Seba mab Bichri.
14
Ac efe a dramwyodd trwy holl lwythau Israel i Abel, ac i Beth‐maacha, ac i holl leoedd Berim: a hwy a ymgasglasant, ac a aethant ar ei ôl ef.
15
Felly y daethant hwy, ac a warchaeasant arno ef yn Abel Beth‐maacha, ac a fwriasant glawdd yn erbyn y ddinas, yr hon a safodd ar y rhagfur: a'r holl bobl y rhai oedd gyda Joab oedd yn curo'r mur, i'w fwrw i lawr.
16
Yna gwraig ddoeth o'r ddinas a lefodd, Clywch, clywch: dywedwch, atolwg, wrth Joab, Nesâ hyd yma, fel yr ymddiddanwyf â thi.
17
Pan nesaodd efe ati hi, y wraig a ddywedodd, Ai ti yw Joab? Dywedodd yntau, Ie, myfi. A hi a ddywedodd wrtho ef, Gwrando eiriau dy lawforwyn. Dywedodd yntau, Yr ydwyf yn gwrando.
18
Yna hi a ddywedodd, Hwy a lefarent gynt, gan ddywedyd, Diau yr ymofynnant ag Abel: ac felly y dibennent.
19
Myfi wyf un o heddychol ffyddloniaid Israel: yr wyt ti yn ceisio difetha dinas a mam yn Israel: paham y difethi di etifeddiaeth yr ARGLWYDD?
20
A Joab a atebodd ac a ddywedodd, Na ato DUW, na ato DUW, i mi na difetha na dinistrio!
21
Nid felly y mae y peth: eithr gŵr o fynydd Effraim, Seba mab Bichri dan ei enw, a ddyrchafodd ei law yn erbyn y brenin, yn erbyn Dafydd. Rhoddwch ef yn unig, a mi a af ymaith oddi wrth y ddinas. A dywedodd y wraig wrth Joab, Wele, ei ben ef a fwrir atat ti dros y mur.
22
Yna y wraig o'i doethineb a aeth at yr holl bobl. A hwy a dorasant ben Seba mab Bichri, ac a'i taflasant allan i Joab. Ac efe a utganodd mewn utgorn; a hwy a wasgarwyd oddi wrth y ddinas, bob un i'w pabellau. A Joab a ddychwelodd i Jerwsalem at y brenin.
23
Yna Joab oedd ar holl luoedd Israel; a Benaia mab Jehoiada ar y Cerethiaid, ac ar y Pelethiaid;
24
Ac Adoram oedd ar y dreth; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur;
25
Sefa hefyd yn ysgrifennydd; a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;
26
Ira hefyd y Jairiad oedd ben‐llywydd ynghylch Dafydd.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24