bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 1
Leviticus 1
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 2 →
1
A'r ARGLWYDD a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd,
2
Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i'r ARGLWYDD, o anifail, sef o'r eidionau, neu o'r praidd, yr offrymwch eich offrwm.
3
Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o'i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD.
4
A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a'i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto.
5
Lladded hefyd yr eidion gerbron yr ARGLWYDD; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
6
A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau.
7
A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân.
8
A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a'r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.
9
Ond ei berfedd a'i draed a ylch efe mewn dwfr: a'r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10
Ac os o'r praidd, sef o'r defaid, neu o'r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl.
11
A lladded ef gerbron yr ARGLWYDD, o du'r gogledd i'r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch.
12
A thorred ef yn ei ddarnau, gyda'i ben a'i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor.
13
Ond golched y perfedd a'r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
14
Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i'r ARGLWYDD; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.
15
A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.
16
A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â'i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du'r dwyrain, i'r lle y byddo y lludw.
17
Hollted ef, a'i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27