bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 16
Leviticus 16
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 17 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr ARGLWYDD, ac y buant feirw;
2
A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i'r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl.
3
A hyn y daw Aaron i'r cysegr: â bustach ieuanc yn bech‐aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm.
4
Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt.
5
A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm.
6
Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ.
7
A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr ARGLWYDD, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
8
A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr ARGLWYDD, a'r coelbren arall dros y bwch dihangol.
9
A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr ARGLWYDD arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth.
10
A'r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr ARGLWYDD, i wneuthur cymod ag ef, ac i'w ollwng i'r anialwch yn fwch dihangol.
11
A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun:
12
A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr ARGLWYDD, a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen:
13
A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr ARGLWYDD; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw:
14
A chymered o waed y bustach, a thaenelled â'i fys ar y drugareddfa tua'r dwyrain: a saith waith y taenella efe o'r gwaed â'i fys o flaen y drugareddfa.
15
Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â'i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa:
16
A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt.
17
Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel.
18
Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch.
19
A thaenelled arni o'r gwaed seithwaith â'i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.
20
A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a'r allor, dyged y bwch byw:
21
A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i'r anialwch.
22
A'r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i'r anialwch.
23
Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i'r cysegr, a gadawed hwynt yno.
24
A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl.
25
A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor.
26
A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i'r gwersyll.
27
A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i'r tu allan i'r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a'u cnawd, a'u biswail, yn tân.
28
A golched yr hwn a'u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i'r gwersyll.
29
A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o'r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a'r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith.
30
Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i'ch glanhau o'ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr ARGLWYDD.
31
Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol.
32
A'r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a'r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna'r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd:
33
Ac a lanha'r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a'r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa.
34
A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27