bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 2
Leviticus 2
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 3 →
1
Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i'r ARGLWYDD, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno.
2
A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o'i beilliaid, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
3
A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i'w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr ARGLWYDD ydyw.
4
Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5
Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew.
6
Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7
Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew.
8
A dwg i'r ARGLWYDD y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o'r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor.
9
A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o'r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
10
A bydded i Aaron ac i'w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr ARGLWYDD ydyw.
11
Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i'r ARGLWYDD; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i'r ARGLWYDD.
12
Offrymwch i'r ARGLWYDD offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd.
13
Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy DDUW o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti.
14
Ac os offrymi i'r ARGLWYDD fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o'r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf.
15
A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw.
16
A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o'i ŷd wedi ei guro allan, ac o'i olew, ynghyd â'i holl thus: offrwm tanllyd i'r ARGLWYDD yw.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27