bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 5
Leviticus 5
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 6 →
1
Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd.
2
Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe.
3
Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o'i blegid, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw.
4
Neu os dyn a dwng, gan draethu â'r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a'r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn.
5
A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo:
6
A dyged i'r ARGLWYDD ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o'r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod.
7
Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i'r ARGLWYDD, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a'r llall yn boethoffrwm.
8
A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith.
9
A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o'r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod.
10
A'r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a'r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
11
Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw.
12
A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i'r ARGLWYDD. Dyma aberth dros bechod.
13
A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o'r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i'r offeiriad y gweddill, megis o'r bwyd‐offrwm.
14
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
15
Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i'r ARGLWYDD; yna dyged i'r ARGLWYDD dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd.
16
A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.
17
Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr ARGLWYDD, ddim o'r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a'i anwiredd a ddwg.
18
A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o'r praidd, gyda'th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.
19
Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr ARGLWYDD.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27