bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 9
Leviticus 9
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 10 →
1
Yna y bu, ar yr wythfed dydd, i Moses alw Aaron a'i feibion, a henuriaid Israel;
2
Ac efe a ddywedodd wrth Aaron, Cymer i ti lo ieuanc yn aberth dros bechod, a hwrdd yn boethoffrwm, o rai perffaith‐gwbl, a dwg hwy gerbron yr ARGLWYDD.
3
Llefarodd hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Cymerwch fyn gafr, yn aberth dros bechod; a llo, ac oen, blwyddiaid, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm;
4
Ac eidion, a hwrdd, yn aberth hedd, i aberthu gerbron yr ARGLWYDD; a bwyd‐offrwm wedi ei gymysgu trwy olew: oherwydd heddiw yr ymddengys yr ARGLWYDD i chwi.
5
A dygasant yr hyn a orchmynnodd Moses gerbron pabell y cyfarfod: a'r holl gynulleidfa a ddaethant yn agos, ac a safasant gerbron yr ARGLWYDD.
6
A dywedodd Moses, Dyma'r peth a orchmynnodd yr ARGLWYDD i chwi ei wneuthur; ac ymddengys gogoniant yr ARGLWYDD i chwi.
7
Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Dos at yr allor, ac abertha dy aberth dros bechod a'th boethoffrwm, a gwna gymod drosot dy hun, a thros y bobl; ac abertha offrwm y bobl, a gwna gymod drostynt; fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD.
8
Yna y nesaodd Aaron at yr allor, ac a laddodd lo yr aberth dros bechod, yr hwn oedd drosto ef ei hun.
9
A meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato: ac efe a wlychodd ei fys yn y gwaed, ac a'i gosododd ar gyrn yr allor, ac a dywalltodd y gwaed arall wrth waelod yr allor.
10
Ond efe a losgodd ar yr allor o'r aberth dros bechod y gwêr a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu; fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.
11
A'r cig a'r croen a losgodd efe yn tân, o'r tu allan i'r gwersyll.
12
Ac efe a laddodd y poethoffrwm: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.
13
A dygasant y poethoffrwm ato, gyda'i ddarnau, a'i ben hefyd; ac efe a'u llosgodd hwynt ar yr allor.
14
Ac efe a olchodd y perfedd a'r traed, ac a'u llosgodd hwynt ynghyd â'r offrwm poeth ar yr allor.
15
Hefyd efe a ddug offrwm y bobl; ac a gymerodd fwch yr aberth dros bechod y bobl, ac a'i lladdodd, ac a'i hoffrymodd dros bechod, fel y cyntaf.
16
Ac efe a ddug y poethoffrwm, ac a'i hoffrymodd yn ôl y ddefod.
17
Ac efe a ddug y bwyd‐offrwm: ac a lanwodd ei law ohono, ac a'i llosgodd ar yr allor, heblaw poethoffrwm y bore.
18
Ac efe a laddodd y bustach a'r hwrdd, yn aberth hedd, yr hwn oedd dros y bobl: a meibion Aaron a ddygasant y gwaed ato; ac efe a'i taenellodd ar yr allor o amgylch.
19
Dygasant hefyd wêr y bustach a'r hwrdd, y gloren, a'r weren fol, a'r arennau, a'r rhwyden oddi ar yr afu.
20
A gosodasant y gwêr ar y parwydennau; ac efe a losgodd y gwêr ar yr allor.
21
Y parwydennau hefyd, a'r ysgwyddog ddeau, a gyhwfanodd Aaron yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD; fel y gorchmynnodd Moses.
22
A chododd Aaron ei law tuag at y bobl, ac a'u bendithiodd; ac a ddaeth i waered o wneuthur yr aberth dros bechod, a'r poethoffrwm, a'r ebyrth hedd.
23
A Moses ac Aaron a aethant i babell y cyfarfod; a daethant allan, ac a fendithiasant y bobl: a gogoniant yr ARGLWYDD a ymddangosodd i'r holl bobl.
24
A daeth tân allan oddi gerbron yr ARGLWYDD, ac a ysodd y poethoffrwm, a'r gwêr, ar yr allor: a gwelodd yr holl bobl; a gwaeddasant, a chwympasant ar eu hwynebau.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27