bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 11
Leviticus 11
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 12 →
1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,
2
Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r anifeiliaid a fwytewch, o'r holl anifeiliaid sydd ar y ddaear.
3
Beth bynnag a hollto'r ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o'r anifeiliaid; hwnnw a fwytewch.
4
Ond y rhai hyn ni fwytewch; o'r rhai a gnoant eu cil ac o'r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti'r ewin; aflan fydd i chwi.
5
A'r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi'r ewin; aflan yw i chwi.
6
A'r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi'r ewin; aflan yw i chwi.
7
A'r llwdn hwch, am ei fod yn hollti'r ewin, ac yn fforchogi fforchogedd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.
8
Na fwytewch o'u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â'u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.
9
Hyn a fwytewch o bob dim a'r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chen, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwytewch.
10
A phob dim nid oes iddo esgyll a chen, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.
11
Byddant ffiaidd gennych: na fwytewch o'u cig hwynt, a ffieiddiwch eu burgyn hwy.
12
Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chen iddo, ffieiddbeth fydd i chwi.
13
A'r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o'r adar; na fwytewch hwynt, ffieidd‐dra ydynt: sef yr eryr, a'r wyddwalch, a'r fôr‐wennol;
14
A'r fwltur, a'r barcud yn ei ryw;
15
Pob cigfran yn ei rhyw;
16
A chyw'r estrys, a'r frân nos, a'r gog, a'r gwalch yn ei ryw;
17
Ac aderyn y cyrff, a'r fulfran, a'r dylluan,
18
A'r gogfran, a'r pelican, a'r biogen,
19
A'r ciconia, a'r crŷr yn ei ryw, a'r gornchwigl, a'r ystlum.
20
Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd‐dra yw i chwi.
21
Ond hyn a fwytewch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;
22
O'r rhai hynny y rhai hyn a fwytewch: y locust yn ei ryw, a'r selam yn ei ryw, a'r hargol yn ei ryw, a'r hagab yn ei ryw.
23
A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd‐dra fydd i chwi.
24
Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â'u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.
25
A phwy bynnag a ddygo ddim o'u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
26
Am bob anifail fydd yn hollti'r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil, aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.
27
Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.
28
A'r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.
29
A'r rhai hyn sydd aflan i chwi o'r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wenci, a'r llygoden, a'r llyffant yn ei ryw;
30
A'r draenog, a'r lysard, a'r ystelio, a'r falwoden, a'r wadd.
31
Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.
32
A phob dim y cwympo un ohonynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwneler dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd lân.
33
A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o'r rhai hyn i'w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o'i fewn; a thorrwch yntau.
34
Aflan fydd pob bwyd a fwyteir, o'r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob diod a yfir mewn llestr aflan.
35
Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o'u burgyn arno; y ffwrn a'r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.
36
Eto glân fydd y ffynnon a'r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â'u burgyn, a fydd aflan.
37
Ac os syrth dim o'u burgyn hwynt ar ddim had heuedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.
38
Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o'u burgyn hwynt arno ef; aflan fydd efe i chwi.
39
Ac os bydd marw un anifail a'r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â'i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.
40
A'r hwn a fwyty o'i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a'r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.
41
A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd‐dra: na fwytaer ef.
42
Pob peth a gerddo ar ei dor, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwytewch hwynt: canys ffieidd‐dra ydynt.
43
Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o'u plegid, fel y byddech aflan o'u herwydd.
44
Oherwydd myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; oherwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.
45
Canys myfi yw yr ARGLWYDD, yr hwn a'ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
46
Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a'r ehediaid, a phob peth byw a'r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a'r sydd yn ymlusgo ar y ddaear;
47
I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a'r glân, a rhwng yr anifail a fwyteir a'r hwn nis bwyteir.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27