bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 24
Leviticus 24
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 25 →
1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i'r goleuni, i beri i'r lampau gynnau bob amser.
3
O'r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr ARGLWYDD, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn.
4
Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr ARGLWYDD bob amser.
5
A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen.
6
A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr ARGLWYDD.
7
A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD.
8
Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr ARGLWYDD bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel.
9
A bydd eiddo Aaron a'i feibion; a hwy a'i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr ARGLWYDD, trwy ddeddf dragwyddol.
10
A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o'r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll.
11
A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr ARGLWYDD, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan.
12
A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr ARGLWYDD beth a wnaent.
13
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
14
Dwg y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll: a rhodded pawb a'i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef.
15
A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei DDUW, a ddwg ei bechod.
16
A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr ARGLWYDD; yr holl gynulleidfa gan labyddio a'i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a'r priodor, pan gablo efe enw yr ARGLWYDD.
17
A'r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw.
18
A'r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail.
19
A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo:
20
Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau.
21
A'r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir.
22
Bydded un farn i chwi; bydded i'r dieithr, fel i'r priodor: myfi ydwyf yr ARGLWYDD eich DUW.
23
A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 25 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27