bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 20
Leviticus 20
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 21 →
1
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o'r dieithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o'i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a'i llabyddiant ef â cherrig.
3
A mi a osodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac a'i torraf o fysg ei bobl; am iddo roddi o'i had i Moloch, i aflanhau fy nghysegr, ac i halogi fy enw sanctaidd.
4
Ac os pobl y wlad gan guddio a guddiant eu llygaid oddi wrth y dyn hwnnw, (pan roddo efe ei had i Moloch,) ac nis lladdant ef:
5
Yna y gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw, ac yn erbyn ei dylwyth, a thorraf ymaith ef, a phawb a ddilynant ei buteindra ef, gan buteinio yn ôl Moloch, o fysg eu pobl.
6
A'r dyn a dro ar ôl dewiniaid, a brudwyr, i buteinio ar eu hôl hwynt; gosodaf fy wyneb yn erbyn y dyn hwnnw hefyd, a thorraf ef ymaith o fysg ei bobl.
7
Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
8
Cedwch hefyd fy neddfau, a gwnewch hwynt: myfi yw yr ARGLWYDD eich sancteiddydd.
9
Os bydd neb a felltigo ei dad neu ei fam, lladder ef yn farw: ei dad neu ei fam a felltigodd efe; ei waed fydd arno ei hun.
10
A'r gŵr a odinebo gyda gwraig gŵr arall, sef yr hwn a odinebo gyda gwraig ei gymydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig.
11
A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei dad, a noethodd noethni ei dad: lladder yn feirw hwynt ill dau; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
12
Am y gŵr a orweddo ynghyd â'i waudd, lladder yn feirw hwynt ill dau: cymysgedd a wnaethant; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
13
A'r gŵr a orweddo gyda gŵr, fel gorwedd gyda gwraig, ffieidd‐dra a wnaethant ill dau: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
14
Y gŵr a gymero wraig a'i mam, ysgelerder yw hynny: llosgant ef a hwythau yn tân; ac na fydded ysgelerder yn eich mysg.
15
A lladder yn farw y gŵr a ymgydio ag anifail; lladdant hefyd yr anifail.
16
A'r wraig a êl at un anifail, i orwedd dano, lladd di y wraig a'r anifail hefyd: lladder hwynt yn feirw; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
17
A'r gŵr a gymero ei chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam, ac a welo ei noethni hi, ac y gwelo hithau ei noethni yntau: gwaradwydd yw hynny; torrer hwythau ymaith yng ngolwg meibion eu pobl: noethni ei chwaer a noethodd efe; efe a ddwg ei anwiredd.
18
A'r gŵr a orweddo gyda gwraig glaf o'i misglwyf, ac a noetho ei noethni hi; ei diferlif hi a ddatguddiodd efe, a hithau a ddatguddiodd ddiferlif ei gwaed ei hun: am hynny torrer hwynt ill dau o fysg eu pobl.
19
Ac na noetha noethni chwaer dy fam, neu chwaer dy dad; oherwydd ei gyfnesaf ei hun y mae yn ei noethi: dygant eu hanwiredd.
20
A'r gŵr a orweddo gyda gwraig ei ewythr frawd ei dad, a noetha noethni ei ewythr: eu pechod a ddygant; byddant feirw yn ddi‐blant.
21
A'r gŵr a gymero wraig ei frawd, (peth aflan yw hynny,) efe a noethodd noethni ei frawd: di‐blant fyddant.
22
Am hynny cedwch fy holl ddeddfau, a'm holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt; fel na chwydo'r wlad chwi, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn iddi i breswylio ynddi.
23
Ac na rodiwch yn neddfau'r genedl yr ydwyf yn eu bwrw allan o'ch blaen chwi: oherwydd yr holl bethau hyn a wnaethant; am hynny y ffieiddiais hwynt.
24
Ac wrthych y dywedais, Chwi a etifeddwch eu tir hwynt; mi a'i rhoddaf i chwi i'w feddiannu; gwlad yn llifeirio o laeth a mêl: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi, yr hwn a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill.
25
Rhoddwch chwithau wahaniaeth rhwng yr anifail glân a'r aflan, a rhwng yr aderyn aflan a'r glân; ac na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oherwydd anifail, neu oherwydd aderyn, neu oherwydd dim oll a ymlusgo ar y ddaear, yr hwn a neilltuais i chwi i'w gyfrif yn aflan.
26
Byddwch chwithau sanctaidd i mi: oherwydd myfi yr ARGLWYDD ydwyf sanctaidd, ac a'ch neilltuais chwi oddi wrth bobloedd eraill, i fod yn eiddof fi.
27
Gŵr neu wraig a fo ganddynt ysbryd dewiniaeth, neu frud, hwy a leddir yn farw: â cherrig y llabyddiant hwynt; eu gwaed fydd arnynt eu hunain.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27