bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 23
Leviticus 23
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 24 →
1
Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
2
Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliau yr ARGLWYDD, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, ydyw fy ngwyliau hyn.
3
Chwe diwrnod y gwneir gwaith; a'r seithfed dydd y bydd Saboth gorffwystra, sef cymanfa sanctaidd; dim gwaith nis gwnewch: Saboth yw efe i'r ARGLWYDD yn eich holl drigfannau.
4
Dyma wyliau yr ARGLWYDD, y cymanfeydd sanctaidd, y rhai a gyhoeddwch yn eu tymor.
5
O fewn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, y bydd Pasg yr ARGLWYDD.
6
A'r pymthegfed dydd o'r mis hwnnw y bydd gŵyl y bara croyw i'r ARGLWYDD: saith niwrnod y bwytewch fara croyw.
7
Ar y dydd cyntaf y bydd i chwi gymanfa sanctaidd: dim caethwaith ni chewch ei wneuthur.
8
Ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r ARGLWYDD saith niwrnod; ar y seithfed dydd bydded cymanfa sanctaidd; na wnewch ddim caethwaith.
9
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt,
10
Pan ddeloch i'r tir a roddaf i chwi, a medi ohonoch ei gynhaeaf; yna dygwch ysgub blaenffrwyth eich cynhaeaf at yr offeiriad.
11
Cyhwfaned yntau yr ysgub gerbron yr ARGLWYDD, i'ch gwneuthur yn gymeradwy: trannoeth wedi'r Saboth y cyhwfana yr offeiriad hi.
12
Ac offrymwch ar y dydd y cyhwfaner yr ysgub, oen blwydd, perffaith‐gwbl, yn boethoffrwm i'r ARGLWYDD.
13
A'i fwyd‐offrwm o ddwy ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu ag olew, yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD, yn arogl peraidd: a'i ddiod‐offrwm fyddo win, pedwaredd ran hin.
14
Bara hefyd, nac ŷd wedi ei grasu, na thywysennau ir, ni chewch eu bwyta hyd gorff y dydd hwnnw, nes dwyn ohonoch offrwm eich DUW. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, fydd hyn.
15
A chyfrifwch i chwi o drannoeth wedi'r Saboth, o'r dydd y dygoch ysgub y cyhwfan; saith Saboth cyflawn fyddant:
16
Hyd drannoeth wedi'r seithfed Saboth, y cyfrifwch ddeng niwrnod a deugain; ac offrymwch fwyd‐offrwm newydd i'r ARGLWYDD.
17
A dygwch o'ch trigfannau ddwy dorth gyhwfan, dwy ddegfed ran o beilliaid fyddant: yn lefeinllyd y pobi hwynt, yn flaenffrwyth i'r ARGLWYDD.
18
Ac offrymwch gyda'r bara saith oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, ac un bustach ieuanc, a dau hwrdd: poethoffrwm i'r ARGLWYDD fyddant hwy, ynghyd â'u bwyd‐offrwm a'u diod‐offrwm; sef aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
19
Yna aberthwch un bwch geifr yn bech‐aberth, a dau oen blwyddiaid yn aberth hedd.
20
A chyhwfaned yr offeiriad hwynt, ynghyd â bara'r blaenffrwyth, yn offrwm cyhwfan gerbron yr ARGLWYDD, ynghyd â'r ddau oen: cysegredig i'r ARGLWYDD ac eiddo'r offeiriad fyddant.
21
A chyhoeddwch, o fewn corff y dydd hwnnw, y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; dim caethwaith nis gwnewch. Deddf dragwyddol, yn eich holl drigfannau, trwy eich cenedlaethau, fydd hyn.
22
A phan fedoch gynhaeaf eich tir, na lwyr feda gyrrau dy faes, ac na loffa loffion dy gynhaeaf; gad hwynt i'r tlawd a'r dieithr: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi.
23
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
24
Llefara wrth feibion Israel gan ddywedyd, Ar y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi Saboth, yn goffadwriaeth caniad utgyrn, a chymanfa sanctaidd.
25
Dim caethwaith nis gwnewch; ond offrymwch ebyrth tanllyd i'r ARGLWYDD.
26
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
27
Y degfed dydd o'r seithfed mis hwn, y bydd dydd cymod; cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau, ac offrymwch ebyrth tanllyd i'r ARGLWYDD.
28
Ac na wnewch ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw: oherwydd dydd cymod yw, i wneuthur cymod drosoch gerbron yr ARGLWYDD eich DUW.
29
Canys pob enaid a'r ni chystuddier o fewn corff y dydd hwn, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.
30
A phob enaid a wnelo ddim gwaith o fewn corff y dydd hwnnw, difethaf yr enaid hwnnw hefyd o fysg ei bobl.
31
Na wnewch ddim gwaith. Deddf dragwyddol, trwy eich cenedlaethau, yn eich holl drigfannau, yw hyn.
32
Saboth gorffwystra yw efe i chwi; cystuddiwch chwithau eich eneidiau ar y nawfed dydd o'r mis, yn yr hwyr: o hwyr i hwyr y cedwch eich Saboth.
33
A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gan ddywedyd.
34
Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis hwn y bydd gŵyl y pebyll saith niwrnod i'r ARGLWYDD.
35
Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: dim caethwaith nis gwnewch.
36
Saith niwrnod yr offrymwch aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: ar yr wythfed dydd y bydd cymanfa sanctaidd i chwi; a chwi a offrymwch aberth tanllyd i'r ARGLWYDD: uchel ŵyl yw hi; na wnewch ddim caethwaith.
37
Dyma wyliau yr ARGLWYDD, y rhai a gyhoeddwch yn gymanfeydd sanctaidd, i offrymu i'r ARGLWYDD aberth tanllyd, offrwm poeth, bwyd‐offrwm, aberth, a diod‐offrwm; pob peth yn ei ddydd:
38
Heblaw Sabothau yr ARGLWYDD, ac heblaw eich rhoddion chwi, ac heblaw eich holl addunedau, ac heblaw eich holl offrymau gwirfodd, a roddoch i'r ARGLWYDD.
39
Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, pan gynulloch ffrwyth eich tir, cedwch ŵyl i'r ARGLWYDD saith niwrnod: bydded gorffwystra ar y dydd cyntaf, a gorffwystra ar yr wythfed dydd.
40
A'r dydd cyntaf cymerwch i chwi ffrwyth pren prydferth, canghennau palmwydd, a brig pren caeadfrig, a helyg afon; ac ymlawenhewch gerbron yr ARGLWYDD eich DUW saith niwrnod.
41
A chedwch hon yn ŵyl i'r ARGLWYDD saith niwrnod yn y flwyddyn: deddf dragwyddol yn eich cenedlaethau yw; ar y seithfed mis y cedwch hi yn ŵyl.
42
Mewn bythod yr arhoswch saith niwrnod; pob priodor yn Israel a drigant mewn bythod:
43
Fel y gwypo eich cenedlaethau chwi mai mewn bythod y perais i feibion Israel drigo, pan ddygais hwynt allan o dir yr Aifft: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW.
44
A thraethodd Moses wyliau yr ARGLWYDD wrth feibion Israel.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27