bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Leviticus 3
Leviticus 3
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 4 →
1
Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr ARGLWYDD yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw.
2
A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.
3
Ac offrymed o'r aberth hedd aberth tanllyd i'r ARGLWYDD; sef y weren fol, a'r holl wêr a fydd ar y perfedd;
4
A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a'r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â'r arennau.
5
A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â'r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r ARGLWYDD.
6
Ac os o'r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i'r ARGLWYDD, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl.
7
Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr ARGLWYDD.
8
A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch.
9
Ac offrymed o'r aberth hedd yn aberth tanllyd i'r ARGLWYDD; ei weren, a'r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â'r weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;
10
A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.
11
A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i'r ARGLWYDD ydyw.
12
Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr ARGLWYDD.
13
A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.
14
Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i'r ARGLWYDD; sef y weren fol, a'r holl wêr a fyddo ar y perfedd;
15
A'r ddwy aren, a'r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a'r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â'r arennau, a dynn efe ymaith.
16
A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr ARGLWYDD.
17
Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27